Camlas Castell-nedd
29.07.2024
Ar y dydd hwn, dau gant a phump ar hugain o flynyddoedd yn ôl, cwblhawyd y rhan olaf o gamlas Castell-nedd. Mae hyn yn gwneud y gamlas yn hŷn na stampiau post, addysg gyhoeddus yng Nghymru, a'r Deyrnas Gyfunol ei hun! Er gwaethaf y newidiadau enfawr sydd wedi digwydd yng Nghastell-nedd dros y ddwy ganrif ddiwethaf, mae camlas Castell-nedd yn elfen gyson yn ei hanes sy’n parhau hyd heddiw.
Rwy’n credu, gyda’r gefnogaeth gywir, y gallai’r gamlas chwarae rhan hanfodol yn lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ein cymunedau. Yr wythnos diwethaf, ces i gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o St Modwen, y cyfranddaliwr mwyaf yng Nghwmni Mordwyo Camlas Castell-nedd, i glywed am yr heriau a’r cyfleoedd sydd o flaen y gamlas. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot a byddaf yn estyn allan at grwpiau cymunedol sydd eisoes yn gwneud cymaint i helpu i gynnal a chadw’r gamlas, i sicrhau nad ni fydd y genhedlaeth sy’n caniatáu i’r rhan bwysig hon o’n hanes i ddiflannu am byth.