logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > AS yn llongyfarch Tenis Castell-nedd

AS yn llongyfarch Tenis Castell-nedd am gael eu cydnabod gan wobr tenis cymunedol

28.06.2021

A hithau’n ddechrau Pencampwriaeth Tenis Wimbledon, mae AS Plaid Cymru dros Orllewin de Cymru, Sioned Wiliams wedi llongyfarch criw o drigolion Castell-nedd sydd wedi mynd ati i adnewyddu cyrtiau tenis y dref ar gael eu cydnabod gan yr LTA (Lawn Tennis Association) yng ngwobrau blynyddol y mudiad fel un o’r Prosiectau Tenis Cymunedol gorau yn y DU.

Ffurfiwyd Tenis Castell-nedd yn 2018 gan breswylwyr ardal Heol Dyfed gyda’r bwriad o ail agor cyrtiau tenis oedd wedi bod ar gau ers 10 mlynedd.  Mewn llai na tair blynedd gwnaeth y grwp o wirfoddolwyr lwyddo codi £130,000 gan Tenis Cymru a Chwaraeon Cymru i osod wyneb newydd ar y cyrtiau a chodi ffensys cadarn newydd.

Mae’r grwp yn falch iawn o sicrhau bod yr adnodd ar gael i’r gymuned gyfan ac wedi cadw’r pris o logi cwrt o fewn cyrraedd pawb.  Mae’r cyrtiau’n cael eu defnyddio gan yr Urdd ac ysgolion lleol gan gynnwys Ysgol Gymraeg Castell-nedd sy’n chwarae ar y cyrtiau bob dydd y tymor hwn.  Trefnwyd hyfforddiant tenis i blant yn rheolaidd ac mae sesiwn tenis cymdeithasol i oedolion yn cael ei gynnal bob prynhawn dydd Sadwrn i’r rheiny sydd am chwarae a gwneud cyfeillion newydd.

Meddai Sioned Williams AS:

“Mae’r prosiect yn enghraifft o rym cymuned yn cydweithio er mwyn gwella ardal o’r dref oedd wedi dirywio er da. Llongyfarchiadau mawr i bawb sy’n gysylltieidig â Tenis Castell-nedd am eu gwaith gwych yn hyrwyddo tenis yn y gymuned ac am y gydnabyddiaeth mae’r prosiect wedi ei dderbyn. Mae’n wych gweld, er gwaethaf heriau Covid, bod y cyrtiau yn nawr ar agor.”

Mae Tenis Castell-nedd yn estyn croeso i bawb sydd eisiau gwybod mwy am y prosiect i ymweld â nhw ddydd Gwener yr 2ail o Orffennaf rhwng 4yh a 7yh pan fydd cyfle i ymweld â’r safle a rhoi cynnig ar fwrw pêl.

Sioned â dyn mewn cwrt tenis

Yn ôl