AS Plaid yn 'siomedig' gydag ymateb ar ad-drefnu ysgolion
29.11.2021
Ysgrifennodd Sioned Williams at Lywodraeth Cymru, ym mis Hydref yn galw iddynt ymyrryd i atal Cyngor Castell-nedd Port Talbot rhag gau ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg.
Wrth ymateb i ymateb y Prif Weinidog i’w llythyr, dywedodd Sioned Williams:
"Rwy’n siomedig iawn gydag ymateb cwbl annigonol ac anfoddhaol y Prif Weinidog i’m llythyr
"Mae'n amlwg i mi y bydd y penderfyniad i gau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe yn: torri'r cysylltiad rhwng addysg a'r gymuned leol, arwain at lai o ddarpariaeth addysg i blant o gefndiroedd difreintiedig, arwain at ddirywiad yn ansawdd yr aer o ganlyniad i gynnydd mewn tagfeydd a thraffig, lleihad mewn mannau gwyrdd lleol ac yn cael effaith hynod ddinistriol ar y Gymraeg.
"Rwy'n annog Cyngor CNPT i edrych eto ar ei benderfyniad ac ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd os oes angen."
Llythyr Sioned Williams i'r Llywodraeth a gweler ymateb y Prif Weinidog isod: