logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Arolwg newydd i geisio sicrhau dyfodol cryf a mwy llewyrchus

Arolwg newydd i geisio sicrhau dyfodol cryf a mwy llewyrchus i Gastell-nedd

03.05.2024

Mae Sioned Williams AS yn cynnal arolwg o drigolion a busnesau i geisio dod o hyd i gyfleoedd newydd yn sgil cau M&S

Sioned Williams o flaen arwydd M&S

Mae Sioned Williams AS, sydd â’i swyddfa etholaeth yng Nghastell-nedd ers iddi gael ei hethol, wedi creu arolwg i gasglu barn trigolion a busnesau lleol am ganol y dref.

Mae’r cam wedi’i gymryd yn sgil cau cangen Castell-nedd o Marks and Spencer’s, sydd wedi codi cwestiynau gan bobl leol am ddyfodol canol y dref.

Bydd yr arolwg yn cael ei lansio heddiw (Mai 3ydd 2024) ar wefan Sioned Williams AS ac ar ei chyfrifon cyfryngau cymdeithasol a bydd copïau papur hefyd yn cael eu dosbarthu i fusnesau lleol.

Dywed Ms Williams y bydd yr atebion o'r arolwg yn helpu i lywio ei chwestiynau i'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru o ran bachu ar a  gwireddu cyfleoedd i'r dref.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae Castell-nedd wedi ei bwrw’n drwm gan y newyddion y bydd Marks and Spencer’s yn cau cyn bo hir, ac mae trigolion yn gofyn cwestiynau am yr hyn y mae hyn yn ei olygu i ddyfodol y dref.

“Rwyf wedi bod yn defnyddio fy amser yn ystod yr wythnosau diwethaf i gwrdd â thrigolion, perchnogion busnesau a’r Ffederasiwn Busnesau Bach am yr heriau y mae Castell-nedd yn eu hwynebu, ac mae yna gyfleoedd i fanteisio arnynt i sicrhau twf ac adfywiad.

“Nod fy arolwg newydd yw casglu safbwyntiau o bob rhan o Gastell-nedd a’r cyffiniau, er mwyn helpu i lywio fy nghwestiynau i’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru o ran manteisio ar y cyfleoedd hynny a’u gwireddu.

“Mae canol ein trefi yn parhau i fod yn ganolbwynt i’n cymunedau, ac mae hyn yn arbennig o wir am Gastell-nedd, gyda’i marchnad wych a hanesyddol, ei phrif orsaf reilffordd ac amrywiaeth o siopau a chaffis annibynnol. Mae’n un o’r rhesymau pam y dewisais y dref fel lleoliad fy swyddfa yn y Senedd, ac mae’n un o’r rhesymau pam yr wyf am barhau i frwydro am ddyfodol cryfach a mwy llewyrchus i ganol tref Castell-nedd.”

Yn ôl