logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Archif Newyddion 2024 > Arolwg Castell-nedd yn amlygu heriau a chyfleon

Arolwg Castell-nedd yn amlygu heriau a chyfleon

14.06.2024

Mae canlyniadau cychwynnol arolwg Castell-nedd yn dangos “balchder gwirioneddol” yn y dref, ond mae angen clir i gwrdd â heriau

Arwyddbost yn dangos lleoedd i fynd iddynt yng Nghastell-nedd

Mae'r Aelod Seneddol lleol, Sioned Williams, wedi rhannu canlyniadau cychwynnol o'i harolwg o drigolion Castell-nedd a pherchnogion busnes, sy'n dangos bod gan bobl leol lawer i fod yn falch ohono, er gwaethaf rhai pryderon amlwg dros ddyfodol y dref. 

Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan bron i 400 o ymatebwyr, ac mae un o bob pump ohonynt yn dweud eu bod yn ymweld â chanol tref Castell-nedd bob dydd, a dros hanner yn ymweld sawl gwaith yr wythnos.

Er bod ychydig dros 50% o'r ymatebwyr yn dweud bod ganddynt farn negyddol o'r dref ar hyn o bryd, gyda phryderon yn amrywio o'r sefyllfa economaidd i sut mae’r dref yn cael ei chynnal a chadw yn gyffredinol, roedd bron pob un ohonynt yn gallu rhestru sawl peth pan ofynnwyd iddynt beth maen nhw'n ei hoffi fwyaf am y dref..

Cododd Ms Williams y canfyddiadau cychwynnol gyda Llywodraeth Cymru, sydd wedi nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn cyfarfod i drafod canfyddiadau'r arolwg ymhellach.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Cafodd fy arolwg ei ysgogi gan y cyhoeddiad bod Marks and Spencer yn bwriadu cau eu siop yng Nghastell-nedd a chwestiynau gan bobl leol ynghylch dyfodol ein tref.

“Efallai nad yw’n syndod bod dros hanner o’r rhai a ymatebodd wedi dweud bod ganddyn nhw farn negyddol o’r dref ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ysgrifennodd bron pob un o’r ymatebwyr restrau hir o’r pethau maen nhw'n eu hoffi a’u caru am Gastell-nedd: O’n marchnad hanesyddol a’n hamrywiaeth o siopau annibynnol i’r camlesi; ac o’n hanes cyfoethog ac adeiladau eiconig i leoliadau fel Gerddi Fictoria a maes rygbi’r Gnoll. Mae cymaint o rinweddau gan Gastell-nedd.

“Ond nid ydym heb ein heriau. Soniodd yr ymatebwyr am broblemau gyda chyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd yn atal rhai rhag ymweld â chanol y dref, heb sôn am y siopau gwag sy'n frith drwy ganol ein tref, a rhai ohonynt bellach mewn cyflwr gwael.

“Ond y dirwasgiad economaidd sy'n pwyso’n drymach ar feddyliau pobl leol - nid yn unig o ran pwysau ar fusnesau, sy'n gorfodi gormod i gau eu drysau, ond hefyd mae’r wasgfa ar bwrs pobl yn golygu bod ganddyn nhw lai yn eu poced i'w wario yn y dref.

“Nid yw Castell-nedd yn brin o dalent na brwdfrydedd, ond mae angen cefnogaeth ar y dref. Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn dadansoddi’r bron i 400 o ymatebion yn llawn a pharhau â’m hymgysylltiad â Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol ynghylch yr hyn y gellir ei wneud i ateb yr heriau hyn yn uniongyrchol.” 

Cafodd y stori hon sylw gan y cyfryngau newyddion canlynol:

Wales Online: Neath survey reveals how people feel about the town (erthygl yn Saesneg yn unig)

[dolen i wefan allanol yn agor mewn ffenestr newydd]

Darllen yr erthygl

Yn ôl