logo Senedd
logo Plaid Cymru

Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru

Hafan > Newyddion > Archif Newyddion 2022 > Galw am adeiladu gwasanaethau bws mwy cynaliadwy

Sioned Williams yn galw am adeiladu gwasanaethau bws mwy cynaliadwy

14.12.2022

Mae Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi galw am “weithredu arloesol” er mwyn gwella darpariaeth bysiau ar draws y rhanbarth yn dilyn arolwg a lansiwyd ganddi yn ystod Mis Dal y Bws ym mis Medi.

safle bws glas gyda dyn yn eistedd gyda'i gefn at y camera

Wedi'i drefnu gan Bus Users UK, mae Mis Dal y Bws yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r cyfraniad y mae gwasanaethau bysiau yn ei wneud i fywydau miliynau ledled y DU a'r rôl y maent yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd trwy leihau allyriadau carbon. I gyd-fynd â hyn fe wnaethom greu arolwg i gasglu barn pobl am y gwasanaeth Bws yn Rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Ymatebodd dros 110 o bobl o'r ardal i'r arolwg byr, y mwyafrif ohonynt yn byw ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot.

Roedd dros 75% o’r ymatebwyr yn defnyddio gwasanaethau bws yn rheolaidd, gyda 77% yn anhapus â’r amserlenni, 70% yn dweud bod y gost yn rhy uchel a 65% yn dweud eu bod yn anfodlon â’r llwybrau oedd ar gael. Dywedodd dros 90% eu bod yn teimlo'n ddiogel ar y bws drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser. Dywedodd 11% eu bod yn defnyddio bysiau i deithio i’r gwaith neu addysg, dywedodd 30% eu bod yn eu defnyddio i ymweld â gwasanaethau hanfodol, dywedodd 21% ‘arall’ tra dywedodd 32% ‘pob un o’r uchod’.

Dywedodd Sioned Williams:

“Nid yw’n syndod taw’r neges glir gawsom gan ymatebwyr yr arolwg oedd eu bod eisiau gwasanaethau bws sy’n aml, fforddiadwy a dibynadwy.

“Er ei bod yn galonogol bod cymaint yn teimlo’n ddiogel ar y bws, mae cyfran y bobl sydd â barn negyddol am lwybrau, amserlenni a chostau yn tanlinellu’r anawsterau sy’n wynebu cwmnïau bysiau a chyrff cyhoeddus a’r meddylfryd arloesol sydd ei angen i adeiladu gwasanaethau bysiau mwy cynaliadwy.”

Ychwanegodd:

“Rydym wedi hen gydnabod bysiau fel rhan hanfodol o’n seilwaith trafnidiaeth. Fel rhan o’n Cynllun Pobl a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw, fe wnaethom alw am gapio prisiau penodol. Byddai hyn yn rhoi rhywfaint o ryddhad i'r miloedd lawer o bobl sy'n dibynnu ar fysiau at ddibenion addysg, gyflogaeth neu wasanaethau cyhoeddus hanfodol. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi galw am ehangu gwasanaethau bws am ddim i bobl ifanc – rhywbeth a godwyd gan lawer o bobl mewn ymateb i’r arolwg.”

“Gyda thua chwarter o ddefnyddwyr bysiau yn dioddef o salwch hirdymor neu anabledd, llawer o ofalwyr di-dâl yn dibynnu ar wasanaethau bws, ac 80% o ddefnyddwyr bysiau rheolaidd heb ddull amgen o deithio, mae adeiladu a chynnal gwasanaethau cynaliadwy ym mhob un o’n cymunedau yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Ni allwn oddef sefyllfa lle mae pobl yn wynebu naill ai unigedd neu gostau chwyddedig dim ond er mwyn cael mynediad at y pethau y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Byddaf yn estyn allan at yr awdurdodau lleol, gweithredwyr gwasanaethau ac eraill yn y dyddiau nesaf i drafod y gwaith y maent yn ei wneud a’r hyn y gellir ei wneud ar ben hyn.”

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur gwyn – Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn – a oedd yn amlinellu dull o ddiwygio’r ffordd y mae gwasanaethau bysiau’n gweithredu. Yn rhagair y Gweinidog, fe cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters AS at fysiau fel “asgwrn cefn ein gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus”.

Ceir gefnogaeth drawsbleidiol dros leihau costau trafnidiaeth i bobl ifanc, gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig ar adegau yn galw am deithio am ddim i bobl dan 25 oed. Yn ddiweddar, cynhwysodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol deithiau bws am ddim i bobl ifanc yn ei phum syniad polisi ar gyfer mynd i’r afael â chostau byw yn yr hirdymor.

Am ragor o wybodaeth: ewch i: Gwefan Bus Users

https://bususers.org/

Nid yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys a dolenni sydd wedi'u hymgorffori sy'n arwain at wefannau nad ydynt yn cael eu hariannu o adnoddau'r Comisiwn.

Yn ôl