logo Senedd
logo Plaid Cymru

Hafan > Newyddion > Archif Newyddion 2021 > Wythnos Gofalwyr 2021

Wythnos Gofalwyr 2021

17.06.2021

Cafodd Wythnos Gofalwyr ei chynnal rhwng 7-13 Mehefin a'i thema eleni oedd sicrhau bod  gofalwyr di-dâl yn cael eu gwerthfawrogi a'u gweld . Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU. Fel rhywun sydd wedi cael profiad personol o ofalu, rwyf am geisio sicrhau bod lleisiau gofalwyr yn cael eu clywed. Roeddwn felly'n awyddus i dreulio amser yn cwrdd â'r rhai sy'n gweithio yn rhanbarth Gorllewin De Cymru i gefnogi gofalwyr a chlywed am eu profiadau a'u hanghenion.

wedi'i gyflwyno mewn bore coffi gofalwyr

Roedd yn wych cwrdd ag Alison Owen a thîm Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot i ddysgu sut maen nhw'n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol i ofalwyr di-dâl a sut maen nhw wedi addasu'r gwaith hwn wrth ymateb i'r pandemig a'i effaith ar fywydau gofalwyr a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Nid yw llawer o bobl yn llwyr sylweddoli eu bod yn ofalwyr ac nid yw eraill yn gwybod ble i droi pan fydd angen cymorth arnynt.

Os ydych chi'n byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot, ewch i'r wefan 'Neath Port Talbot Carers Service'  neu ffoniwch 01639 642277 i ddarganfod mwy am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael, gan gynnwys help gyda llenwi ffurflenni, rhaglen lawn o weithgareddau cymdeithasol  a chyrchu gofal seibiant.

Siaradais hefyd â swyddog polisi Age Cymru ac un o drigolion Castell-nedd, Andrew Jenkins am yr adroddiad ‘Am y Tro’ sydd newydd ei gyhoeddi - gallwch ei ddarllen yma: For the Moment Summary of findings from older carers

Mae Andrew yn sôn wrthyf am brif ganfyddiadau'r adroddiad yn y clip fideo hwn 

Ac, fel diweddglo hyfryd i Wythnos Gofalwyr, ymunais â Bore Coffi Canolfan Gofalwyr Abertawe i sgwrsio â gofalwyr a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt, gwirfoddolwyr a staff am anghenion gofalwyr di-dâl.

Os oes angen gwybodaeth a chefnogaeth arnoch ac yn byw yn ardal Abertawe, gallwch fynd i Swansea Carers Centre neu ffonio 01792 653344 i gael cyngor a help cyfeillgar.

Cysylltwch â mi os oes gennych unrhyw broblemau gyda chael gafael ar gymorth a chefnogaeth yn ardal Gorllewin De Cymru a byddaf yn ceisio helpu. sioned.a.williams@senedd.cymru

Yn ôl