Hafan > Newyddion > Archif Newyddion 2021 > Adroddiad diwedd tymor: Gorffennaf 2021
Adroddiad diwedd tymor: Gorffennaf 2021
27.06.2021
Mae hi wedi bod yn dymor cyntaf prysur iawn yn y Senedd, yn cynrychioli pobl Gŵyr, Abertawe, Castell-nedd, Aberafan, Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr, fel aelod rhanbarthol dros Orllewin De Cymru.
Mae llawer ohonoch wedi bod mewn cysylltiad am nifer o faterion a phryderon, ac rwyf wedi bod yn codi'r rhain yn lleol gyda'r awdurdodau perthnasol, yn y wasg, a hefyd, pan gefais gyfle i wneud hynny, yn Siambr y Senedd.
Mae rhai materion a godwyd gennych yn ymwneud ag effaith y cyfyngiadau Covid - megis annhegwch ac ansensitifrwydd peidio â chaniatáu i bartneriaid fynychu pob sgan beichiogrwydd a'r diffyg gwybodaeth a gweithredu ar ailgychwyn gwasanaethau deintyddiaeth. Rwyf hefyd wedi bod yn codi materion pwysig fel y diffyg cynnydd o ran sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus well yn ein hardal, a’r angen i gofio am ardaloedd fel Cwm Tawe a Chwm Afan pan ddaw at y cynlluniau ar gyfer Metro De Orllewin Cymru. Gofynnais i'r llywodraeth hefyd pa gynnydd a wnaed o ran datblygu morlyn llanw Bae Abertawe.
Yn genedlaethol, rwyf wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael â’r lefelau o dlodi yr ydym yn ei weld yng Nghymru, a gwrando ar alwadau arbenigwyr gwrth-dlodi sy’n dweud mai un o’r mesurau mwyaf effeithiol a phwysig i helpu plant sy’n byw mewn tlodi fyddai sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael i bob plentyn y mae eu teuluoedd yn gymwys i dderbyn Credyd Cynhwysol.
Mae materion eraill a godwyd gennyf wedi bod yn faterion llosg ers tro:
- y lefel uchel y Dreth y Cyngor yng Nghastell-nedd Port Talbot
- yr angen am fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio Canol Tref Castell-nedd
- annhegwch polisïau trafnidiaeth ysgol, o ran rhoi teuluoedd incwm is dan anfantais, ledled y rhanbarth
- y sefyllfa o ran y diffyg darparu prydau ysgol poeth i ddisgyblion Ysgol Godre'rgraig yn eu lleoliad dros dro yn Ysgol Cwm Tawe
- a'r ymgyrch barhaus yn erbyn y cynlluniau i gau ysgolion yng Nghwm Tawe.
