Sioned Williams AS yn feirniadol o oedi o saith mlynedd ar fesur iechyd y cyhoedd a “allai gael effaith negyddol go iawn ar iechyd plant lleol”
Mae Sioned Williams AS, Aelod Senedd Gorllewin De Cymru, wedi beirniadau Llywodraeth Cymru heddiw am oedi o saith mlynedd wrth gyflwyno reoliadau iechyd "hanfodol".
Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn gosod dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rheoliadau sy'n gwneud Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd (HIA) gan gyrff cyhoeddus yn orfodol. Mae'r Ddeddf yn nodi bod HIA yn “asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, gam neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl Cymru neu ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl rhai o bobl Cymru.”
Pan holwyd hi am HIAau ym mis Mehefin 2023, soniodd y Prif Weinidog Eluned Morgan, yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog Iechyd ar y pryd, am y polisi fel un "gwirioneddol arloesol" ac yn "rhywbeth rwy'n gwybod bod gan Sefydliad Iechyd y Byd ddiddordeb mawr ynddo". Fodd bynnag, nid tan fis Rhagfyr 2023 yr agorodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar HIAau, chwe blynedd ar ôl i'r ddyletswydd statudol gael ei phasio. Er i'r cyfnod hwn gau ym mis Mawrth 2024, ni fu unrhyw ddiweddariad pellach gan Lywodraeth Cymru.
Mae Sioned Williams AS, sydd hefyd yn siarad dros Blaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar, wedi tynnu sylw at "enghraifft o'r byd go iawn" yn ei rhanbarth, lle mae cynllunio ar gyfer bwyty McDonalds wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer safle ym Mhontardawe sydd wedi'i gysylltu ag Ysgol Gymunedol Cwmtawe trwy bont-droed, ac sydd ar y llwybr cerdded diogel dynodedig ar gyfer yr ysgol.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru eisoes wedi codi pryderon bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn dechrau ysgol gynradd dros eu pwysau neu'n ordew, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amcangyfrif mai cost gordewdra i'r GIG yng Nghymru yw £73 miliwn, y disgwylir iddo godi i £465 miliwn erbyn 2050.
Tra bod Sioned Williams AS a'r cynghorydd lleol Plaid Cymru, Nia Jenkins, wedi gwrthwynebu'r cynnig ar sail bod pryderon dilys am iechyd plant ysgol yn benodol, roedd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi ysgrifennu at Sioned Williams i gadarnhau bod "...dim gofyniad statudol i gyflwyno Asesiad o'r Effaith ar Iechyd (HIA)...". Cynhaliodd pwyllgor cynllunio Castell-nedd Port Talbot ymweliad safle ar 13 Awst 2024, ac yn dilyn hynny fe wnaethant benderfynu cymeradwyo'r cais.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Gorllewin De Cymru:
“Mae'r pwysau anhygoel sydd ar ein GIG yn hysbys i bawb , ac er bod Llywodraeth Cymru yn siarad am fesurau iechyd ataliol er mwyn lleddfu'r baich, dydyn nhw wedi gweithredu’n ddigonol ar draws y rhaglen lywodraethu.
“Mae Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd (HIAau) yn cael eu brolio gan Lywodraeth Cymru fel polisi sy’n arwain y byd a honnir eu bod wedi tynnu sylw Sefydliad Iechyd y Byd. Ac eto, saith mlynedd ar ôl i ddyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru ddod i rym i'w gweithredu, nid oes gennym unrhyw newyddion pellach ynghylch pryd y bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i gwmpasu awdurdodau lleol.
“Yn y cyfamser, mae gennym enghreifftiau o'r byd go iawn o benderfyniadau cynllunio sy'n cael eu gwneud a allai gael effaith negyddol ar iechyd plant lleol. Mae'r McDonalds sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Pontardawe ar stepen drws Ysgol Gymunedol Cwmtawe, o fewn pellter cerdded hawdd i Ysgol Gynradd yr Alltwen ac YGG Pontardawe ac o fewn 1.5 milltir i bedair ysgol gynradd arall yn yr ardal. Gallai gofyniad i gynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd chwarae rhan hanfodol wrth alluogi'r cyngor i werthuso effaith bosibl eu gweithredoedd ar iechyd.
“Dim ond y mis diwethaf fe edrychodd Eluned Morgan ar wahardd ail-lenwi am ddim ar ddiodydd llawn siwgr, ac mae hi wedi sôn o'r blaen am wahardd bargeinion bwyd ‘meal deals’, ond mae arafwch ei gweithredu ar HIAau wedi gadael y ffordd yn glir i fwytai bwyd cyflym godi y tu fas i gatiau'r ysgol.”