Aeth Sioned Williams AS i Senedd Ysgol Cwm Brombil, i drafod trafnidiaeth, hinsawdd a chost y diwrnod ysgol
Yn ddiweddar cyfarfu Sioned Williams AS, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, â Senedd Ysgol Cwm Brombil, ar ôl cael gwahoddiad gan ddisgyblion i fynychu eu cyfarfod.
Roedd Senedd yr ysgol yn barod gyda nifer fawr o gwestiynau, yn amrywio o gludiant cyhoeddus ac ysgol, i’r argyfwng hinsawdd, i gost y diwrnod ysgol.
Roedd gan y disgyblion lawer o gwestiynau hefyd am rôl Ms Williams, gan gynnwys sut aeth hi i fyd gwleidyddiaeth, ac roedden nhw wrth eu bodd yn derbyn gwahoddiad i'r Senedd, y maen nhw’n gobeithio ei dderbyn yn 2025.
Bydd llawer o’r disgyblion oedd yn bresennol yn gymwys i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau'r Senedd 2026.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Roedd yn bleser pur ymweld â Senedd Ysgol Cwm Brombil ddydd Iau i siarad am y materion sy'n bwysig iddyn nhw. Roedd y disgyblion ar dân dros nifer o bynciau y mae gan ein Senedd genedlaethol reolaeth drostynt, fel trafnidiaeth, rhan Cymru yn yr argyfwng hinsawdd, a materion fel cost gwisg ysgol.
“Roeddwn yn falch iawn o glywed bod yr ysgol wedi cymryd camau i dynnu logos o eitemau fel legins ar gyfer chwaraeon, er mwyn helpu i gadw costau i lawr. Ond roedd yn destun pryder clywed gan aelodau o Senedd yr ysgol am sut y gall diffyg mynediad i gludiant ysgol weithiau fod yn rhwystr rhag mynychu'r ysgol a chreu caledi ariannol i'w teuluoedd.
“Siaradais am y ffyrdd y gallant ymgysylltu gyda'r materion gwleidyddol sy'n effeithio arnynt, ac rwy'n edrych ymlaen at eu croesawu i’r Senedd ym Mae Caerdydd yn 2025.”