“Mae ein marchnad nid yn unig yn arbennig yn hanesyddol, ond mae ei arwyddocad o ran denu ymwelwyr i ganol y dref yn bwysicach nag erioed” - Sioned Williams AS
Ar ôl ysgrifennu at Gyngor Castell-nedd Port Talbot ym mis Medi gyda phryderon a godwyd am ddyfodol Marchnad Castell-nedd, mae Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi derbyn cadarnhad bod cynlluniau i gau’r farchnad yn “hollol ffug”.
Mewn llythyr at Sioned Williams AS, cadarnhaodd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, “bwysigrwydd Marchnad Castell-nedd i gynlluniau presennol adfywio'r Cyngor ar gyfer y Dref ac i'r dyfodol.”
Mae Ms Williams, sydd â'i swyddfa 200 metr yn unig o'r farchnad, wedi croesawu'r camau a gymerwyd gan y Cyngor i sefydlu gweithgor a fydd yn ystyried opsiynau cyllido tymor byr a thymor hir.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae Marchnad hanesyddol Castell-nedd wrth galon y dref, a dylem ei thrysori. Rwy'n siopa yno’n wythnosol, ac o'm harolwg diweddar am ddyfodol Canol Tref Castell-nedd, gafodd 400 o ymatebion, rwy'n gwybod fod pobl leol ac ymwelwyr â'r dref yn ei gwerthfawrogi hefyd.
“Dyna pam ei bod mor bwysig ceisio sicrwydd gan y Cyngor eu bod yn blaenoriaethu'r farchnad yn eu cynlluniau ar gyfer canol y dref, eu bod yn archwilio pob cyfle i gael cyllid grant i ddiweddaru ei hymddangosiad, a'u bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i hyrwyddo ein marchnad wych i ddarpar gwsmeriaid a masnachwyr newydd fel ei gilydd.
“Rwyf mor falch o glywed am ymrwymiad y Cyngor i ddyfodol Marchnad Castell-nedd a'r gwaith y maent wedi bod yn ei wneud gyda masnachwyr y farchnad yn dilyn fy llythyr, i sefydlu ffyrdd o gydweithio.
“Mae ein marchnad nid yn unig yn arwyddocaol yn hanesyddol, ond mae ei phwysigrwydd o ran denu ymwelwyr i ganol y dref yn bwysicach nag erioed o ystyried cau Marks and Spencer ym mis Mai. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith sydd wedi ei amlinellu gan y Cyngor.
“Byddaf yn parhau i ymgyrchu i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud gan y rhai sydd mewn grym i gefnogi a dathlu'r cyfraniad y mae Marchnad Castell-nedd yn ei wneud i'r economi leol ac i fywiogrwydd canol tref Castell-nedd.”
Llythyr
Llythyr gan y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot at Sioned Williams AS, dyddiedig 24 Hydref 2024 (yn Saesneg):
Dear Sioned
Firstly, I would like to acknowledge the productive meeting held last Friday and that I look forward to the continuation of regular conversations of this type.
In respect of discussions on the subject of Neath Market and in turn request for receipt of the topics covered in writing, I’ve detailed this as follows.
Officers of Property and Regeneration met on site with the traders on 17 September 2024 to discuss any queries they had and in particular to allay their concerns in respect the unfounded and spurious rumours that the Council intended to close Neath Market which were totally incorrect. The ongoing negativity is having a detrimental impact on the market and negates some of the positive news around new lettings etc.
Officers stressed at that meeting the importance of Neath Market to the Council’s current and future regeneration proposals for the Town with the aim of working jointly with the Traders Association on both short and long term projects and proposals for the Market.
The meeting was generally positive with the traders agreeing to reconvene the Market Traders Association with the aim of its Committee meeting with officers of the Council on a regular basis going forward.
The Council has set up an internal working group to consider short and longer term options and funding opportunities for the market.
Council officers have since met with the Traders Association on 10 October 2024 where the Association was provided with an update on possible short and longer term ideas and proposals to develop an Action plan for the market and further meetings are planned for coming weeks/months. The Traders Association were encouraged and agreed to provide ideas and proposals for the market.
Yours sincerely
Cllr Steve Hunt