Mae Sioned Williams AS yn cwrdd â'r tîm yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sydd wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Camlesi Abertawe i daclo rhywogaethau sydd ddim yn rhai brodorol i’r ardal
Dywedodd Sioned Williams AS:
“Rwyf wedi gweld y gwaith gwych y mae Cymdeithas Camlesi Abertawe wedi'i wneud i adfer Camlas Abertawe yng Nghlydach, felly roeddwn yn falch iawn o gwrdd â'r tîm yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sydd wedi bod yn gweithio gyda nhw i daclo rhywogaethau sydd ddim yn rhai brodorol i’r ardal.
“Rwyf wedi siarad yn aml am fanteision camlesi i les, a gyda'r planhigion cywir yn ffynnu ochr yn ochr â nhw, gallant fod yn fuddiol i'n bywyd gwyllt hefyd.
“Mae'r tîm bob amser yn agored i weithio gyda grwpiau camlesi eraill, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â nhw i ddarganfod beth y gallant ei gynnig.”