Ymateb Lloyds ar gau banc Pontardawe yn “hynod siomedig”

Dywed Sioned Williams AS fod Lloyds yn “amlwg wedi methu deall natur cymunedau Cymoedd y Gorllewin”

Sioned Williams MS is outside Lloyds bank in Pontardawe

Yn dilyn ei hymgyrch i herio’r penderfyniad i gau Banc Lloyds ym Mhontardawe, sydd wedi gweld cannoedd o drigolion yn cysylltu, pob un ohonynt o blaid cadw'r gangen ar agor, cytunodd Banc Lloyds i gwrdd â Sioned Williams AS i drafod eu penderfyniad.

Mae Ms Williams wedi disgrifio'r ymateb gan y banc rhyngwladol fel un "hynod siomedig" a'u hymadawiad arfaethedig fel “brad” er ei bod wedi croesawu eu cynnig o gymorth i helpu pobl leol gydag opsiynau bancio eraill, gan gynnwys eu hymrwymiad i redeg Gwasanaeth Banciwr Cymunedol Lloyds yn y dref. 

Bydd Banciwr Cymunedol, er nad yw'n gallu delio â thrafodion, yn darparu cymorth wyneb yn wyneb i bobl sydd â chwestiynau am gyfrifon a gwasanaethau. Fodd bynnag, nododd Lloyds y byddai hyn ond ar gael unwaith bob pythefnos ym Mhontardawe, a'u cynllun oedd annog pobl i ddefnyddio eu gwasanaethau bancio ar-lein neu dros y ffôn. 

Nid oes gan Lloyds fersiwn Gymraeg o'u system bancio ar-lein ar hyn o bryd, er bod opsiynau i siarad â phobl yn Gymraeg ar y ffôn. 

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae penderfyniad Banc Lloyds i gau'r gangen ym Mhontardawe wedi  creu ymdeimlad o frad ymhlith trigolion a busnesau fel ei gilydd. Roeddwn yn awyddus i adlewyrchu hyn yn fy nghyfarfod â Lloyds -  a’r ffaith nad yw'r penderfyniad hwn yn effeithio ar bobl Pontardawe yn unig - oherwydd dyma'r banc olaf yng Nghwm Tawe gyfan, ac mae'n effeithio ar hyd at 25,000 o bobl.

“Tra bod Lloyds yn mynnu eu bod nhw'n ysgrifennu at bawb sy’n byw yn y cyffiniau sy'n defnyddio'r gangen, hyd yn oed os yw côd didoli eu cyfrif yn rhywle arall, wnes i ddim derbyn llythyr o'r fath ac rwy’n byw ym Mhontardawe, ac yn aml yn ymweld â’r gangen! Llwyddais yn hyn o beth i sicrhau ymrwymiad ganddyn nhw i edrych eto ar eu rhestr o gwsmeriaid.

“Fe wnes i hefyd egluro y byddai cau'r gangen yn effeithio ar ein trigolion mwyaf bregus. Dyw teithio i Abertawe neu Gastell-nedd ddim yn opsiwn i bawb, ac mae llawer o bobl a lofnododd fy neiseb wedi dweud wrtha i nad ydyn nhw'n gallu nac eisiau defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein - nid pawb sy'n berchen ar gyfrifiadur, ac nid yw pawb â chysylltiad rhyngrwyd da yng Nghymru!  

“Yr hyn sy'n arbennig o boenus yw bod Lloyds wedi cau eu Cangen yn Ystradgynlais ar y sail bod ganddyn nhw gangen ym Mhontardawe. Mae pobl o bob rhan o Gwm Tawe yn dod i Bontardawe ar gyfer y banc, ac mae hyn wrth gwrs nawr yn achosi pryder mawr i fusnesau lleol. Er bod Lloyds wedi adolygu data trafodion ar gyfer busnesau lleol, ni wnaethant gynnal arolwg o natur y busnesau hynny cyn gwneud eu penderfyniad, a'r pryder yw y bydd cael gwared ar y banc yn gorfodi'r busnesau hynny i symud o fod yn rhai sy’n cymryd arian parod. Bydd hyn yn effeithio ar bobl nad oes ganddynt fynediad at gerdyn banc, fel pobl ag anabledd dysgu, a'r rhai y mae'n well ganddynt ddefnyddio arian parod fel nifer o bobl hŷn.

“Mae Banc Lloyds wedi addo i mi na fydd unrhyw gwsmer yn cael ei 'adael ar ôl' ac fe fyddan nhw'n edrych ar yr adnodd fydd yn cael ei ddyrannu i Gangen Pontardawe i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael amser i ddysgu am opsiynau eraill, ond y gwir amdani o hyd yw na fydd yr un peth â’r gwasanaeth presennol. Er i Lloyds fy sicrhau bod 77% o gwsmeriaid Cangen Pontardawe yn rhyngweithio â bancio mewn gwahanol ffyrdd hefyd, rwy'n ymladd dros y chwarter o gwsmeriaid sydd ond yn rhyngweithio mewn person mewn canghennau, ac ar gyfer ein busnesau lleol.

“Dyma fanc rhyngwladol sy'n gorfodi newid ar gwsmeriaid sy'n dweud wrthynt yn glir eu bod eisiau ac angen cangen gorfforol. Nid dull ‘cwsmer yn gyntaf’ yw hwn, mae'n ddull ‘corfforaeth yn gyntaf’ ac mae eu hymateb cychwynnol yn siomedig iawn.

“Diolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i ddweud wrtha i sut y bydd cau'r gangen yn effeithio'n benodol arnyn nhw – daliwch ati i anfon eich barn ar hynny ataf, gan nad yw'r frwydr drosodd eto.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd