Fel llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb, rwy'n teimlo'n angerddol bod angen i ni fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar sail rhywedd er lles ein gwasanaeth iechyd a menywod Cymru.
Rwy'n eistedd ar Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Menywod sy'n anelu at fynd i'r afael â'r ystod eang o faterion iechyd sy'n wynebu menywod Cymru ar hyn o bryd. Mae angehn sicrhau eu bod yn cael llais a bo pobol yn gwrando, bod ganddynt fynediad at ofal iechyd cynhwysfawr a gweithio i wella eu profiadau a'u canlyniadau gofal iechyd.
Cliciwch yma i adael sylw neu i ddanfon neges
14.04.25 - Mae diffyg data canser y fron yn methu pobl yng Nghymru
26.03.25 - Dadl Fer: Meddwl yn wahanol: Ymgyrch Sefydliad y Merched i gefnogi menywod a merched awtistaidd ac ADHD
25.03.25 - 'The Cost of Endometriosis’ Event
Roeddwn yn falch o noddi digwyddiad Endometriosis UK a FTWW Fair Treatment for the Women of Wales yn y Senedd i helpu i godi ymwybyddiaeth ac Digwyddiad Ar-lein Mis Gweithredu ar ‘Gost Endometriosis’ heno. Mae mor bryderus clywed am gost economaidd enfawr endometriosis ac effaith amseroedd aros hir annerbyniol ar gyfer apwyntiadau gynaecoleg. Rhaid i Gynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru arwain at newid parhaol i'r rhai sy'n byw gydag endometriosis, a rhaid i'r mentrau i gyflawni hyn gael eu hariannu a'u cyflymu'n gynaliadwy.
11.03.25 - Cwestiwn i'r Prif Weinidog: Data Canser Metastatig y Fron
Os nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod faint o bobl sydd â chanser y fron yng Nghymru, yna sut y gallant wybod eu bod yn derbyn cefnogaeth ddigonol? Gofynnais i'r Prif Weinidog i fynd i'r afael â'r bwlch hwn yn nata canser y fron.
06.03.25 - Mae gweithredu ar ofal erthyliad yn hanfodol
12.02.25 - Cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: Gofal Erthylu
Mae rhai agweddau ar ofal erthylu yng Nghymru yn hynod diffygiol, gyda phobl sydd yn aml yn fregus yn gorfod teithio i Loegr. Codais hyn gyda'r Llywodraeth ac ron i'n falch eu bod bellach wedi addo gweithredu, yn dilyn galwadau gan sefydliadau fel BPAS am hyn ers blynyddoedd.
22.01.25 - Dadl Gwasanaethau canser
Yn y ddadl hon, tynnais sylw at yr anghydraddoldeb iechyd yma yng Nghymru. Ar gyfartaledd, mae menywod yng Nghymru yn llai tebygol o dderbyn triniaeth canser o fewn y ffenestr glinigol ddelfrydol na dynion. Y canlyniad anochel yw bod cyfraddau marwolaethau o ganser gynaecoleg yn uwch yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig.
06.01.25 - Angen mwy o weithredu ar sgandal rhwyll
19.11.24 - Cwestiwn i'r Prif Weinidog: Rhwyll Wain
O’r diwedd mae gan Gymru Gynllun Iechyd Menywod, ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu. Siomedig i beidio â gweld rhwyll wain, un o sgandalau iechyd mwyaf y cyfnod diweddar, hyd yn oed yn cael ei grybwyll. Gofynnais i Lywodraeth Cymru gefnogi'r miloedd o fenywod sy' wedi dioddef yn well.
25.10.24 - Tickled Pink
Roedd hi'n wych cwrdd â Patricia, swyddog cymunedol Asda Llansamlet gyda Rheolwr y Siop Warren, a chefnogi eu hymgyrch Tickled Pink ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron gyda'u cais poignant: “Gwnewch y hunan-wirio go iawn”.
02.10.24 - Dadl: Gofal iechyd menywod
18.10.24 - Cefnogi 'Wear it Pink' ar gyfer Breast Cancer Now
02.07.24 - Caru Eich Mislif
Roeddwn i wrth fy modd yn cefnogi digwyddiad yr ymgyrch Caru Eich Mislif yn y Senedd. Dysgais am y gwaith i helpu i addysgu pobl ifanc am fislif, i helpu pobl i deimlo eu bod yn gallu siarad am sut mae mislif yn effeithio ar eu bywydau, a'r gwaith sydd ei angen o hyd i ddod â thlodi mislif i ben. Mae cymaint o gynhyrchion newydd, cynaliadwy, sy'n gyfeillgar i'r corff ar gael, ond mae gormod o bobl yn methu â'u fforddio, ac nid yw rhai cyfleusterau toiled yn cadw i fyny ag anghenion pobl sydd â mislif, felly mae ffordd bell i fynd o hyd i sicrhau y gall pawb elwa o iechyd mislif da.
23.05.24 - Cwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd: Lefelau staffio mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe
24.04.24 - Datganiad: Mis Ymwybyddiaeth Adenomyosis
29.03.24 - Mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Adenomyosis
11.03.24 - Deng mlynedd ar gyfer diagnosis – y cyflwr sy’n effeithio ar 1 o bob 10 menyw
20.02.24 - Rwy'n falch o fod yn Bencampwr Target Ovarian Cancer
Mae hwn yn glefyd sy'n parhau i gael ei anwybyddu. Mae'n bwysig iawn codi ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig ym mis Mawrth sef Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari.
07.02.24 Ymweliad â Chyfeillion Mynwes Pont-y-clun
Bwyd cynnes, tân cynnes a chwmni cynnes – mae'n amlwg bod llawer o fy etholwyr yn gwerthfawrogi'r Hwb Cynnes ym Mhont-y-clun. Llongyfarchiadau i Pontyclun Bosom Pals, y Cynghorydd Wayne Owen a'r tîm ym Boars Head yn Tyla Garw. Nes i ymweld â'r grŵp yn ôl ym mis Rhagfyr hefyd. Wedi tyfu o'r gymuned, er mwyn y gymuned – roedd yn hyfryd cwrdd â Sue, Llysgennad Pontyclun Boson Pals. Er ei fod wedi'i leoli ym Mhont-y-clun, mae'r grŵp hefyd yn darparu cefnogaeth i bobl yng Ngorllewin De Cymru - er enghraifft Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr a Phencoed. Os gallwch gyrraedd Pont-y-clun yn hawdd, ac yn chwilio am rwydwaith cymorth canser y fron, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r grŵp gwych hwn.
22.01.24 - Gwasanaethau Mamolaeth Abertawe
15.12.23 - Canfyddiadau gwasanaeth mamolaeth Abertawe yn “bryderus iawn”, medd Plaid Cymru
01.12.23 - “Angen eglurder” ar ddyfodol clinig ffrwythlondeb Castell-nedd Port Talbot
15.11.23 - Panelwr Digwyddiad Iechyd Menywod yn y Gweithle CIPD
Roedd yn wych cael fy ngofyn i gymryd rhan yn y digwyddiad pwysig hwn gyda dros 80+ o fynychwyr, gan gynnwys rheolwyr a chyfarwyddwyr AD o bob cwr o'r sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector. Mae'r CIPD wedi bod yn pwyso ers tro am weithleoedd gwell i fenywod, gan gynnwys cynhyrchu cyfres o ddeunyddiau a chanllawiau ymarferol i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr i wella amodau i fenywod yn y gwaith. Mae menywod yn parhau i wynebu nifer o heriau yn y gweithle, yn amrywio o gydbwyso gofal plant a gwaith, colli babi a rheoli triniaeth ffrwythlondeb a'r menopos yn y gwaith. Roedd y digwyddiad yn ymchwilio i bynciau fel y rhain, sydd â effaith sylweddol a gweladwy ar fenywod gweithlu Cymru, er mwyn helpu i gyflymu cynnydd tuag at atebion byd go iawn.
27.11.23 - Cerdyn coch i Gymru ar iechyd menywod
22.08.23 - Dangosiad ffilm Below the Belt
