Adroddiad newydd y Swyddfa Archwilio ar Dlodi yng Nghymru yn cefnogi galwadau gan Sioned Williams AS.

Heddiw mae adroddiad newydd gan Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am strategaeth a thargedau newydd i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru - rhywbeth y mae Plaid Cymru ac ymgyrchwyr gwrth-dlodi wedi bod yn galw amdano ers tro.

bottwm support

Mae hefyd yn nodi “nad yw’r un Cyngor wedi creu un porth i mewn i wasanaethau. O ganlyniad mae’n rhaid i bobl gwblhau ffurflenni cais lluosog sy’n aml yn cofnodi’r un wybodaeth.”

Cyflwynodd Sioned Williams AS, sy’n Llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, gynnig ar gyfer newid y gyfraith ar y mater hwn yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Cafodd y cynnig ei basio gyda chefnogaeth drawsbleidiol, er na phleidleisiodd unrhyw aelod o Lywodraeth Cymru o’i blaid.

Dywedodd Sioned Williams AS: “Mae’r diffygion, y gwahaniaethau ac yn ystod y degawd diwethaf o reolaeth y Torïaid yn San Steffan, y creulondeb llwyr sy’n nodweddu system Les y DU, wedi achosi caledi i ddegau o filoedd o bobl yng Nghymru ac wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cael ei gorfodi i gamu i mewn i gefnogi teuluoedd incwm isel lle mae San Steffan wedi methu Cymru.

"Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers tro dros ddatganoli gweinyddiaeth dros Les i Gymru ac rydym yn falch o fod yn symud ymlaen ar hyn drwy ein Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond wrth i ni aros am gynnydd ar yr uchelgais hwnnw, mae'r gefnogaeth sydd ar gael o goffrau Cymru yn gwbl briodol wedi bod yn lluosi’n gyflym ac felly’n esblygu’n glytwaith o daliadau sy’n cael eu darparu’n bennaf, ond nid yn unig gan Awdurdodau Lleol. Mae’r taliadau weithiau’n seiliedig ar brawf modd ac weithiau’n gysylltiedig â rhai budd-daliadau penodol, gydag amodau cymhwysedd yn amrywio, o ran ffurf a natur a dulliau ymgeisio sydd ar wahân yn bennaf ac yn aml yn gymhleth.

“Roeddwn yn falch iawn bod fy nghynnig wedi’i basio gan y Senedd yr wythnos diwethaf ac rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i gynyddu’r nifer o bobl gymwys sy’n derbyn cymorth gan fudd-daliadau Cymreig drwy ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a chysoni’r dull o wneud cais am gymorth o’r fath,  yn enwedig o ystyried argymhellion adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'n hollbwysig bod pob ceiniog o gymorth sydd ar gael yng Nghymru yn cyrraedd pocedi'r rhai sydd ei angen mor rhwydd a chyflym â phosibl."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd