Sioned Williams AS yn annog Llywodraeth Cymru i wrando ar alwadau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar Gaza
Heddiw, mae Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw Cymru â rhan yn yr hyn y mae ymchwil diweddar Amnest Rhyngwladol wedi ei ganfod yw hil-laddiad yn erbyn y Bobl Balestinaidd.
Wrth siarad yn sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog, galwodd Ms Williams ar Lywodraeth Cymru i eirioli dros atal gwerthiant arfau i Israel, a sicrhau nad yw eu gweithgareddau neu bartneriaethau yn darparu unrhyw gefnogaeth i gwmnïau sy'n gysylltiedig â “gweithredu milwrol anghyfreithlon ac annynol.”
Gofynnodd Ms Williams hefyd am ymateb y Prif Weinidog i lythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn unol â’u cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan gynnwys eu “hymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol ... y tu hwnt i'n ffiniau.”
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan bod Llywodraeth Cymru wedi eu “cyfyngu” o ran sut y gallan nhw ymateb.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru:
“Gaza yw’r lle mwyaf peryglus yn y byd i blant, gyda’r gyfradd uchaf o ddiffyg maeth plant yn y byd, a’r nifer uchaf o blant sydd wedi colli braich neu goes o ran cyfran o’r boblogaeth yn y byd. Mae cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – sydd wedi eu nodi mor glir yn llythyr Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol at y Prif Weinidog – i genedlaethau’r dyfodol y tu hwnt i ffiniau Cymru. Rwy’n cefnogi ei alwadau ar y Prif Weinidog i ‘fynd ymhellach.’
“Mae’n arwyddocaol bod Amnest wedi cadarnhau bod Israel yn cyflawni hil-laddiad yn erbyn Palestiniaid yn Gaza. Mae dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw eu gweithgareddau na’u partneriaethau yn darparu cefnogaeth i gwmnïau sy'n gysylltiedig â’r gweithredu milwrol anghyfreithlon ac annynol yma. Ni ddylai Cymru fod â rhan yn yr hil-laddiad hwn.
“Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn ei wneud yn glir bod gan Lywodraeth Cymru bŵer a chyfrifoldeb i eirioli dros roi diwedd ar werthiant arfau'r DG i Israel ac i gefnogi galwadau am ddadfuddsoddi. Mae eu tawelwch ar y mater hwn yn hynod siomedig.”