Heddiw, fe alwodd AS Plaid Cymru Sioned Williams ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bwndeli babanod i holl rieni newydd Cymru er mwyn eu helpu'n ystod yr argyfwng costau byw.
Mewn cwestiwn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, soniodd Sioned Williams AS am “y pwysau economaidd enfawr a chynyddol” sydd ar aelwydydd, ac fe gyfeiriodd at y cynnydd mawr diweddar yn nifer y bobl sy’n cael trafferth talu eu biliau a dyledion.
Gofynnodd Sioned Williams, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru, i’r Gweinidog a oedd yn cytuno y dylid cyflwyno bwndeli babanod i bob riant yng Nghymru er mwyn eu helpu'n ystod yr argyfwng costau byw.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Sioned Williams AS:
"Rydym wedi clywed eto heddiw am y pwysau economaidd enfawr a chynyddol sydd ar aelwydydd. Ledled y DU, mae nifer y bobl sy'n cael trafferth talu eu biliau a'u dyledion wedi cynyddu i bron i 11 miliwn, gydag 11% o oedolion wedi methu bil neu daliad benthyciad yn y tri o’r chwe mis diwethaf, yn ôl ymchwil newydd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, felly mae’n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob modd posibl i gefnogi pobl ac i'w codi mas o dlodi.
"Yng Nghymru, mae cartrefi gyda phlant ifanc yn fwy tebygol o fod mewn tlodi cymharol. Mae'r cynllun bocsys babanod wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr Alban fel un ffordd o helpu pobl i ymdopi â'r pwysau ariannol ychwanegol a ddaw yn sgil cael babi newydd.
"Fe beilotwyd gynllun bwndel babi gan Lywodraeth Cymru yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe rhwng mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021, cynllun fuodd yn llwyddiannus yn ôl gwerthusiad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth. Yn ddiweddar hefyd, fe gyhoeddwyd ymchwil pellach a oedd yn gadarnhaol o blaid cyflwyno'r polisi'n genedlaethol. Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers diwedd y peilot, ac mae rhagor o waith ymchwil bellach wedi'i gwblhau.
"Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylid cyflwyno bwndeli babanod i bob riant yng Nghymru cyn gynted â phosibl er mwyn helpu rhieni newydd yn ystod yr argyfwng costau-byw? Ac a allai'r Llywodraeth gyhoeddi manylion sut a phryd y maent yn bwriadu cynyddu'r ddarpariaeth o fwndeli babanod?"
Mewn ymateb, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, fod y cynllun bwndel babanod wedi’i “dreialu’n llwyddiannus” a bod Llywodraeth Cymru yn anelu at “gaffael a phenodi cyflenwr i gyflawni’r [polisi] hwn erbyn diwedd y flwyddyn, ac i ddechrau cyflawni prosiectau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf."
Gwyliwch isod: