Bydd toriadau Llafur i fudd-daliadau anabledd yn effeithio ar 6.1% o’r boblogaeth

“Dyma barhau gyda llymder, a does dim spin gall Llafur wneud i guddio hynny” – Sioned Williams AS

Sioned Williams MS is in the Senedd Oriel being interviewed, with the camera visible to the left of the photo.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS, wedi dweud bod adroddiad ar y cyd gan Sefydliad Bevan a Policy in Practice yn profi pa mor greulon yw toriadau Llafur i fudd-daliadau anabledau - byddant yn dyfnhau tlodi yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn amlinellu bod tua 190,000 o bobl yng Nghymru am gael eu heffeithio gan y toriadau - 6.1% o'r boblogaeth. Mae hefyd wedi datgelu y bydd diwygiadau lles Llywodraeth Lafur y DU yn achosi 'cynnydd sydyn mewn tlodi' ac yn cynyddu lefelau tlodi plant.

Mae Sioned Williams o Blaid Cymru wedi barnu’r Prif Weinidog Llafur yng Nghymru am wrthod condemnio'r toriadau, a'i methiant i sefyll i fyny dros Gymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Sioned Williams AS:

“Mae'r adroddiad hwn yn dangos pa mor greulon yw toriadau budd-daliadau anableddau Llafur, gan effeithio ar 6.1% o boblogaeth Cymru a chynyddu'r nifer o bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn sylweddol.

“Dyma barhau gyda llymder, a does dim spin gall Llafur wneud i guddio hynny. Tra bo'r Prif Weinidog yn canmol tro-pedol rhanol Llywodraeth y DU i’w toriadau i daliadau Tanwydd y Gaeaf, mae ei methiant i gondemnio’r toriadau i fudd-daliadau anabledd, gan wybod yr effaith anghymesur ar gymunedau Cymru, ar ein gwasanaethau cyhoeddus a sut y bydd yn rhoi pwysau pellach ar Lywodraeth Cymru, yn dangos nad oes ganddi ddiddordeb yn sefyll lan dros bobl Cymru.

“Yn union fel rydyn ni wedi sefyll fyny dros Gymru ers i Lafur gyhoeddi’r toriadau i fudd-daliadau lles, bydd llywodraeth Plaid Cymru bob amser yn rhoi ein cymunedau yn gyntaf a galw am degwch i Gymru oddi wrth San Steffan.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd