Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi galw am weithredu ar unwaith i unioni “creithiau amgylcheddol dwfn” yn ystod dadl yn y Senedd ar ddiogelwch tomenni glo.
Tynnodd Sioned Williams sylw at yr effaith y gall mathau eraill o domenni hefyd ei gael ar gymunedau ôl-ddiwydiannol, a thynnodd sylw at domen sbwriel chwarel yng Ngodre’r-Graig yng Nghwm Tawe.
Dywedodd Sioned Williams:
“Mae ein treftadaeth ddiwydiannol wedi helpu i ffurfio ein cenedl, ond am bopeth a roddodd, fe gymerodd hefyd yn ol – etifeddiaeth a ysbrydolodd ond hefyd a anafodd, a greodd fywydau a chymunedau ond sydd wedi gadael cyflyrau iechyd cronig, tlodi parhaus a chreithiau amgylcheddol dwfn.”
“Yng Ngodre’r-Graig er enghraifft, mae’r bygythiad o domen sbwriel chwarel wedi bod yn destun pryder i’r gymuned leol. Ers 2019 mae plant Ysgol Gynradd Godre’r-Graig wedi cael eu haddysgu mewn cabanau symudol mewn ysgol filltiroedd i ffwrdd o’u pentref, yn aml heb ddarpariaeth prydau poeth, oherwydd asesiad y cyngor o risg y domen i’w hysgol.”
“Mae llawer o gymunedau yn fy rhanbarth yn byw dan gysgod tebyg. Maen nhw'n byw mewn ofn bob tro y bydd hi'n bwrw glaw. Yn ogystal a bod yn fater o ddiogelwch, mae hefyd yn fater o gyfiawnder hanesyddol, cymdeithasol a hinsawdd.”
Ar draws rhanbarth Gorllewin De Cymru – ardal sy’n cwmpasu awdurdodau lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Phen-y-bont ar Ogwr – mae mwy na 900 o domenni segur, gyda dros 600 ohonynt yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Fe wnaeth adroddiad a ddarparwyd gan y Earth Science Partnership – a gomisiynwyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i archwilio’r safle yng Ngodre’r-Graig – nodi risg lefel ganolig ar gyfer tomen gwastraff y chwarel ger yr ysgol. Darganfu'r ymchwiliad pe bai'r nant yn cael ei rhwystro o ganlyniad i dywydd garw, y byddai posibilrwydd y gallai lefelau dŵr a phwysau yn y domen achosi i ddeunydd lifo i lawr yr allt.
Dywedodd y Cynghorydd Sir dros Godre’r Graig, Rosalyn Davies:
“Mae disgyblion a staff wedi cael eu symud o safle Ysgol Godre’r-Graig i safle ‘dros dro’ ers o leiaf 5 mlynedd – nes bod ‘Ysgol Super’ arfaethedig wedi’i hadeiladu, sy’n gwbl annerbyniol.”
Ychwanegodd Sioned Williams MS:
“Yn amlwg mae cost enfawr i wneud tomenni yn ddiogel, ond byddai cost diffyg gweithredu yn llawer uwch ac mae’r tomenni hyn, fel yr un yng Ngodre’r-Graig eisoes yn achosi pryder ac aflonyddwch enfawr i gymunedau – cymunedau sydd wedi bod yn sylfaen I ddiwydiant Cymru ac wedi talu pris digon uchel am hynny drwy’r cenedlaethau. Mae trigolion y cymunedau hyn yn haeddu bod yn ddiogel ac maent yn haeddu atebion. Ni ddylent orfod colli eu hysgol bentref, calon eu cymuned.”
Yn dilyn y ddadl, pleidleisiodd y Senedd o blaid cynnig diwygiedig gan Blaid Cymru yn nodi’r effaith y bydd newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar ddiogelwch tomenni, gan alw am gymryd camau i wneud tomenni’n ddiogel ac y dylai Llywodraeth y DU ddarparu’r cyllid er mwyn cyflawni hyn.
Roedd y cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu i helpu i adfywio ardaloedd o amgylch tomenni a bod y cymunedau hynny yr effeithir arnynt yn cael llais yn y broses o reoli ac adennill tomenni yn y dyfodol.