Taliad plentyn uniongyrchol yw’r ymyriad fwyaf pwerus ac effeithiol er mwyn lleihau tlodi yn ôl adroddiad diweddar
Dangosodd adroddiad diweddar gan Policy in Practice mai’r modd fwyaf pwerus ac effeithiol er mwyn lleihau tlodi yw taliad uniongyrchol.
Heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 24ain), roedd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn cwestiynu'r Prif Weinidog Llafur yng Nghymru, Eluned Morgan, ar ei amharodrwydd i gefnogi polisi o’r math.
Galwodd Plaid Cymru ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i weithredu ar daliad plentyn ar unwaith i “gyrraedd bron i un-mewn-tri o aelwydydd sydd mewn tlodi”, a “lleihau tlodi plant o bron i chwarter”.
Cyhoeddwyd Plaid Cymru eu bwriad i greu taliad plentyn uniongyrchol, Cynnal, yn eu cynhadledd wanwyn yn 2025. Mae’r polisi wedi ei ysbrydoli gan y Taliad Plentyn yn yr Alban, sydd wedi helpu’r Alban i fod yr unig genedl yn y DU ble mae tlodi plant i fod i ostwng yn ôl adroddiadau diweddar.
Erbyn 2029, mae disgwyl i dlodi plant gynyddu i 34.4% yng Nghymru, sef y gyfradd uchaf o holl genhedloedd y DU.
Beirniadodd arweinydd Plaid Cymru Prif Weinidog Cymru am ei diffyg gweithredu ar y ‘staen cenedlaethol’, wrth ddweud ei bod ‘wastad yn gwrthod’ gweithredu ar y polisi sydd wedi ei gefnogi gan arbenigwyr yn y sector.
Gofynnodd Mr ap Iorwerth hefyd am newidiadau'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan i fudd-daliadau anableddau, newidiadau sydd yn gweld y Llywodraeth yn San Steffan yn wynebu aelodau eu meinciau cefn yn pleidleisio yn eu herbyn. Gofynnodd Mr ap Iorwerth os bydd y Prif Weinidog yn annog ei chynghreiriaid Cymraeg yn San Steffan i bleidleisio yn erbyn y newidiadau, gyda dim ond 3 o 27 ASau Cymraeg Llafur yn bwriadu pleidleisio yn erbyn.
Aeth Rhun ap Iorwerth AS ymlaen i ddweud mai dim ond Llywodraeth Plaid Cymru sydd gan ‘wir uchelgais’ i daclo tlodi plant, bydd yn rhoi ‘dyfodol mwy disglair’ i genedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:
“Mae wedi arddangos mai Taliad Plentyn Uniongyrchol yw’r modd mwyaf pwerus ac effeithiol o holl opsiynau'r llywodraeth i leihau tlodi plant. Buasai taliad o’r math yn cyrraedd bron i 1/3 o aelwydydd sy’n byw mewn tlodi, yn enwedig teuluoedd mwy ac aelwydydd gyda phlant ifanc.
“Mae’r polisi wedi profi i fod yn drawsnewidiol yn yr Alban wrth iddynt fod yr un genedl yn y DU i lwyddo yn lleihau tlodi plant erbyn 2029 yn ôl tueddiadau presennol. Mewn cyferbyniad i hyn, mae tlodi plant yng Nghymru i fod i godi i 34.4% yn yr un cyfnod – yr uchaf yn y DU. Felly, gyda thystiolaeth mor amlwg, beth mae’r Prif Weinidog yn disgwyl am?
“Mae’r amser i’r cwestiwn yn glir – dyw taclo tlodi ddim yn flaenoriaeth i Lafur. Tra mae Llafur yn cadw’r cap dau-blentyn creulon, ac yn gwthio mwy o bobl i dlodi drwy doriadau i fudd-daliadau anableddau, mae Plaid Cymru am gymryd camau positif i leihau tlodi – yn dangos mai ni yw’r unig blaid sydd yn barod i daclo’r staen cenedlaethol hwn.
“Mae hyn yn fwy eglur fyth wrth weld rhestr o ASau llafur sydd yn barod i bleidleisio yn erbyn toriadau creulon Llafur i les, oherwydd er bod Cymru am ei tharo’n galetach gan y toriadau, dim ond llond llaw o ASau Llafur o Gymru sydd ar y rhestr o ASau Llafur sy’n barod i bleidleisio yn erbyn.
“Mae Plaid Cymru yn gwybod nad hyn yw’r gorau gall Gymru fod, rydym yn gwybod na ddylai 1/3 o ein plant fod yn byw mewn tlodi, fod tlodi ddim anochel yn ein cymunedau. Dyna pam mai ni yw’r unig blaid sydd yn fodlon mynd i’r afael a thlodi yn uniongyrchol.
“Mae pleidlais dros Blaid Cymru yn 2026 yn bleidlais dros blaid sydd gyda gwir uchelgais a chynlluniau credadwy i daclo tlodi plant, gyda chefnogaeth arbenigwyr, ar gyfer dyfodol mwy disglair ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol:
“Nid yw'r angen i fynd i'r afael â thlodi erioed wedi bod yn fwy difrifol.
“Dros y 30 mlynedd diwethaf, fod plant yn gyson wedi wynebu'r cyfraddau tlodi uchaf yng Nghymru.
“Mae Plaid Cymru'n barod i greu polisïau gwrthdlodi fel ein cynllun Cynnal, taliad plant trawsnewidiol, gan ddysgu o'r Alban, lle mae polisi tebyg eisoes yn codi degau o filoedd o blant mas o dlodi, achos mae angen inni ddewis llwybr gwahanol yng Nghymru os ydym am gyflawni'r ddyletswydd yna i warchod a meithrin dyfodol ein cenedl.
“Mae Cymru'n haeddu gwell. Mae ein plant yn haeddu gwell. Ac ymhen blwyddyn, bydd gan bobl Cymru ddewis i gymryd llwybr gwahanol at ddyfodol gwell, ac fe fydd Plaid Cymru yn barod i'w gwasanaethu.”