Mae Sioned Williams, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, heddiw wedi croesawu’r newyddion y bydd Cyfeillion Parc Coffa Talbot o’r diwedd yn derbyn cymorth ariannol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ategu arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, i wneud gwaith angenrheidiol ar y bandstand.
Dywedodd Sioned Williams AS:
“Mae Parc Coffa Talbot yn fan gwyrdd hardd sy’n cael ei fwynhau gan lawer o drigolion yr ardal leol a thu hwnt, ond ers llawer rhy hir mae’r bandstand wedi bod mewn cyflwr gwael. Rai misoedd yn ôl, cefais gyfle i siarad ag aelodau’r grŵp Cyfeillion i drafod eu gwaith, eu cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol a phryderon ynghylch cyllid.”
“Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod mewn cyswllt rheolaidd â chynrychiolwyr o’r Cyngor, gan wthio am gytundeb a fyddai’n caniatáu i’r gwaith fynd rhagddo.”
“Mae’n siomedig ei bod wedi cymryd cymaint o amser i ddod i’r cytundeb hwn, ond rwy’n falch bod y weinyddiaeth newydd wedi cydnabod a gwerthfawrogi ymdrechion y Cyfeillion a phwysigrwydd y prosiect hwn i’r gymuned. Fy ngobaith yw y bydd hwn yn gam mawr tuag at wella’r parc cymunedol hanesyddol hwn yn ei gyfanrwydd.”
Mae Parc Coffa Talbot, sydd ddim yn bell o ganol Port Talbot, wedi’i restru fel Gradd II ar Gofrestr Parciau a Gerddi Hanesyddol Morgannwg. Ar wahân i'r bandstand, mae'r parc hefyd yn cynnwys cofeb rhyfel, parc chwarae i blant, cyrtiau tenis, lawnt fowlio a gwely blodau gydag arwyddion wedi'u neilltuo i'r eicon Hollywood, Richard Burton, oedd yn dod o’r ardal.