Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi galw ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i “weithredu ar unwaith” i sicrhau cydraddoldeb i blant anabl yn y sector gofal plant.
Mae Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi galw ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i “weithredu ar unwaith” i sicrhau cydraddoldeb i blant anabl yn y sector gofal plant.
Mae hyn yn dilyn pryderon a godwyd gan etholwr nad yw cymorth digonol yn cael ei ddarparu i rieni plant anabl er mwyn talu’r costau gofal plant ychwanegol y maent yn aml yn gorfod eu talu.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon, cododd Sioned Williams achos etholwr y dywedwyd wrthi am dalu bron i £300 y diwrnod er mwyn i’w dau blentyn awtistig anghenion uchel allu mynychu lleoliad gofal plant yn ystod gwyliau ysgol – tair gwaith cymaint â’r gyfradd safonol y mae’r feithrinfa’n ei godi – gan y bod angen goruchwyliaeth 1-1 ar y ddau blentyn.
Dywedodd etholwr arall a gysylltodd â Sioned: “Mae'r cyfrifoldeb ar riant-ofalwyr i ddatrys y broblem. Mae pobl yn rhoi’r ffidil yn y to – maen nhw’n cymryd taw eu cyfrifoldeb nhw ydyw i ddatrys y broblem. Nhw yw’r ‘broblem’ a’u plentyn yw’r ‘broblem’. Rwyf wedi siarad â mwy a mwy o ofalwyr-rieni sy’n ceisio cadw eu gyrfaoedd, ond mae’r rhan fwyaf yn rhoi’r gorau iddi.”
Dywedodd Sioned Williams, llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau ac Ghadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Anableddau Dysgu:
“Mae rhieni plant anabl yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at ofal plant addas oherwydd diffyg lleoliadau arbenigol, a chostau sy’n aml yn anfforddiadwy. Mae’n amlwg ei bod yn anodd iawn dod o hyd i’r wybodaeth am unrhyw gymorth sydd ar gael ac mae grwpiau anableddau dysgu yn dweud bod diffyg gofal plant addas a fforddiadwy yn broblem gyffredin a hirsefydlog.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn adolygu’r ddarpariaeth addysg a blynyddoedd cynnar ac yn nodi rhwystrau i gymorth fel rhan o’i chynllun gweithredu anabledd dysgu newydd, ac rwy’n croesawu hyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Llywodraeth gymryd camau ar unwaith i sicrhau bod y gwasanaethau a chymorth sydd wirioneddol eu hangen yn hygyrch ac ar gael i rieni plant anabl.”
Ychwanegodd Sioned Williams:
“Mae’n wahaniaethol ac yn warthus nad yw rhieni’n fwy gwybodus am unrhyw gymorth sydd ar gael iddynt, a bod disgwyl iddynt fel mater o drefn dalu mwy am ofal plant os yw eu plant yn anabl – hynny yw, os gallant ddod o hyd i darpariaeth addas yn y lle cyntaf.”
“Yn ei ateb i’m cwestiwn, dywedodd y Prif Weinidog, ‘Os oes mwy o syniadau i wneud mwy yn y dyfodol, yna rydym yn awyddus i’w clywed.’ Byddwn felly’n annog rhieni, y gymuned anabl a’r rhai sy’n gweithio yn y maes gofal plant i gysylltu â mi i rannu eu profiadau a’u barn ar yr hyn sydd angen ei wella, a byddaf yn cyfleu’r safbwyntiau hyn i Lywodraeth Cymru.”