Sioned Williams yn cefnogi hawliau ffoaduriaid

Heddiw, fe lambastiodd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, Lywodraeth Geidwadol y DG am eu hymosodiadau "annynol" ar hawliau ffoaduriaid.

Merch yn eistedd gyda baggiau

Wrth ymateb i ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams:

"Mae'n drasig nodi bod Diwrnod Ewrop, sydd i fod i ddathlu heddwch ac undod, yn ddiwrnod ble rydym yn dal i orfod trafod yr hyn y mae rhyfel a gormes yn ei greu—y dinistr a'r boen i fywydau pobl sy'n gorfod ffoi rhag trais ac erledigaeth ar gyfandir Ewrop a thu hwnt.

"Mae angen cefnogaeth yn ddirfawr ar y bobl hyn, o Wcráin a gwledydd eraill—llwybrau diogel, llety pwrpasol, brawdgarwch a chwaergarwch, nid rhethreg gan wleidyddion sy'n corddi ac yn hybu drwgdeimlad a rhaniadau.

"Mae Plaid Cymru yn rhoi ar gofnod ein condemniad o honiadau diweddar y Ceidwadwyr yma yng Nghymru, ac yn San Steffan, am geiswyr lloches a ffoaduriaid, a'r modd y mae eu hawliau dynol yn cael eu tramgwyddo gan ddeddfwriaeth. Ni ddylai'r Senedd gydsynio i'r Bil Mudo Anghyfreithlon anfoesol, annynol, annerbyniol y mae'r Ceidwadwyr am ei weld. 

Aeth Sioned Williams ymlaen i nodi “na fydd ein dyhead i fod yn genedl noddfa yn un gall gael ei wireddu'n llawn” tra bod pwerau dros hawliau ffoaduriaid yn parhau i fod yn San Steffan.

Pwysodd Sioned Williams hefyd ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cyfleoedd dysgu Cymraeg am ddim a darparu gwell cymorth tai i ffoaduriaid, yn ogystal â chynnig cymorth i ddinasyddion Cymru sydd â theulu yn Swdan.

Gwyliwch isod:

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd