Sioned Williams yn sefyll mewn undod â gweithwyr

Ymunodd Sioned Williams AS heddiw ag athrawon yr NEU ar y llinell biced yng Nghastell-nedd a mynychodd rali yn Abertawe o blaid gweithwyr o bob sector sydd ar streic.

Heddiw, fe ymunais ag aelodau’r undeb NEU ar y llinell biced yn Ysgol Dŵr y Felin yng Nghastell-nedd, sydd ar streic dros gyflogau ac amodau teg, yn ogystal â gwell cyllid i ysgolion. Mae’r athrawon hyn yn gweithio’n galed bob dydd er lles ein plant, a'r oll y maent yn gofyn amdano yw amodau gwaith teg fel eu bod yn gallu darparu addysg o’r ansawdd gorau posib i ddisgyblion. Ni ddylai hyn fod yn ormod i ofyn amdano.

 

Roeddwn hefyd yn falch o fynychu rali yn Sgwâr y Castell yn Abertawe a drefnwyd gan Gyngor Masnach Abertawe i gefnogi pawb oeddar streic heddiw, pawb oedd eisoes wedi gweithredu a phawb sy'n paratoi ar gyfer gweithredu. Roedd y siaradwyr yn cynnwys aelodau o PCS, UCU, NEU, Unsain, Unite, GMB, RMT, ASLEF a CWU.

Fel llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, rwy’n falch bod fy Mhlaid yn cefnogi’r gweithwyr hynny sy’n sefyll lan dros eu hawliau a thros hawliau pob un ohonom. Mae angen i Lywodraethau’r DU a Chymru wrando ar leisiau’r gweithwyr.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd