Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, Sioned Williams AS wedi galw ar Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai sy’n rhan o raglen Cymru ac Affrica yn cael eu gwarchod, yn dilyn deddfwriaeth homoffobig newydd yn Uganda.
Mynegodd Sioned Williams ei solidariaeth hi a’i phlaid ddydd Mercher gyda chymuned LHDTC+ Uganda, yn dilyn deddfwriaeth newydd yn Uganda a allai weld pobl LHDTC+ yn wynebu dedfrydau o garchar am oes neu hyd yn oed y gosb eithaf am fod yn LHDTC+.
Disgrifiodd Sioned Williams, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru yn y Senedd, y ddeddfwriaeth, fydd yn dod i rym os caiff ei lofnodi gan yr Arlywydd Museveni, yn un “warthus”, a gawlodd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn cymryd o ddifrif ei hymrwymiad dros "ddyletswydd ryngwladol Cymru i ddangos arweiniad ar gydraddoldeb".
Mae ffoaduriaid LHDTC+ o Uganda sydd bellach yn byw yng Nghymru wedi siarad yn erbyn y Bil, gan rannu hanesion erchyll am fywyd yn Uganda.
Dywedodd Sioned Williams AS:
"Mae Plaid Cymru wedi bod yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y cynllun gweithredu LHDTC+ i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop tuag at bobl LHDTC, ond mae’r cynllun hefyd yn ymrwymo i arddangos dyletswydd ryngwladol Cymru i ddangos arweiniad ar gydraddoldeb. Mae pobl sy’n hunan-adnabod yn LHDTC+ yn Uganda mewn perygl o orfod treulio'u bywydau yn y carchar, a gallent gael y gosb eithaf mewn rhai achosion, ar ôl i’r Senedd basio'r Bil newydd yr wythnos diwethaf.
"Yn ogystal â gwneud hunan-adnabod fel hoyw yn anghyfreithlon am y tro cyntaf, byddai gan ffrindiau, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned ddyletswydd i roi gwybod i'r awdurdodau am unigolion sydd mewn perthynas â rhywun o'r un rhyw. Mae Amnesty wedi dweud: 'Bydd y ddeddfwriaeth hynod ormesol hon yn sefydliadu gwahaniaethu, casineb, a rhagfarn yn erbyn pobl LHDTC+… ac yn rhwystro gwaith pwysig cymdeithas sifil, gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, ac arweinwyr cymunedol.'"
"Fe wyddom am y cysylltiadau niferus sydd gan Lywodraeth Cymru ag Uganda drwy raglen Cymru ac Affrica, gan weithio mewn partneriaeth ar brosiectau a rhaglenni amrywiol. Mae angen felly i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y bobl sydd ynghlwm wrth y prosiectau hynny, a allai fod mewn perygl difrifol oherwydd y ddeddfwriaeth warthus ac erchyll hon, yn cael eu hamddiffyn a'u diogelu, a bod rhaglen Cymru ac Affrica yn fwy cyffredinol yn gyson â’r ymrwymiadau rhyngwladol yng nghynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru.
Gwyliwch isod: