Fe ymatebodd Sioned Williams i gyllideb drafft Llywodraeth Cymru
Yr wythnos hon, fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-2024.
Croesawodd Plaid Cymru agweddau o'r gyllideb ddrafft, ac fe gyflwynon welliant a fyddai wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a gofal a rhoi help ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf drwy gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y gyfradd dreth uwch gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3.
Yn anffodus, pleidleisiodd y blaid Lafur gyda'r Torïaid i drechu ein gwelliant.
Yn ystod y ddadl, beirniadais y diffyg pwyslais ar wariant ataliol sydd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Fe wnes y pwynt bod lefel y gronfa cymorth dewisol, er i'w groesawu, yn gyllid i helpu pobl mewn argyfwng, ac y dylid rhoi blaenoriaeth hefyd i wariant ataliol, ar gyfer cynlluniau fel cynllun cymorth tanwydd Cymru, sydd wedi’i dorri yn ei gyfanrwydd. Er y bydd y cynllun yn dod i ben, ni fydd yr angen yn dod i ben, ac yn wir fe fydd yr angen hyd yn oed yn fwy y gaeaf nesaf, yn ôl rhagolygon Cyngor ar Bopeth.
Mynegais fy siom ynghylch y diffyg buddsoddiad yn ein pobl ifanc mwyaf difreintiedig sy’n dymuno parhau â’u haddysg. Pe bai wedi pasio, byddai gwelliant Plaid Cymru wedi sicrhau y gallai’r lwfans cynhaliaeth addysg ddarparu lefel briodol o gefnogaeth.
Ailadroddais fy ngalwadau hefyd am system fudd-daliadau Gymreig integredig, fel y byddem yn gallu sicrhau bod pob ceiniog o gymorth yn cyrraedd pocedi’r rhai sydd ei angen, yn ddi-ffael a heb ffwdan.
Mae lefelau tlodi plant yn uwch yng Nghymru nag yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Yn anffodus, mae Llywodraeth Lafur Cymru unwaith eto wedi methu â sicrhau’r adnoddau sydd eu hangen arni - drwy drethiant teg, cymesur a chyfiawn - i helpu oresgyn y caledi cywilyddus sy’n creithio ein cymunedau.
Gallwch wylio fy nghyfraniad lawn neu wylio clip o'm araith isod: