Sioned Williams yn canmol busnes cynaliadwy Abertawe am greu cyfleoedd cyffrous i fenywod mewn STEM

Canmolodd AS Plaid Cymru Sioned Williams y cyfleoedd cyffrous sy’n cael eu cynnig i fenywod mewn STEM gan Power and Water, cwmni technoleg trin dŵr llwyddiannus yn Llansamlet, Abertawe, yn ystod ymweliad heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth (11eg Chwefror).

638

Mae Power and Water yn arbenigo mewn dulliau trin dŵr gwastraff ecogyfeillgar nad oes angen cemegau hylifol arnynt, i adennill cynhyrchion gwastraff a chynhyrchu dŵr glân a diogel, a chan osgoi defnyddio sylweddau niweidiol ac anniogel.

Dywedodd AS Gorllewin De Cymru a Llefarydd Plaid Cymru dros Addysg Ôl-16 a Chydraddoldebau, Sioned Williams:

“Roedd yn bleser cwrdd â thair o raddedigion benywaidd diweddar sydd bellach yn ganolog i’r ymchwil gyffrous sy’n cael ei wneud gan Power and Water. Mae’r cwmni arloesol hwn nid yn unig yn darparu cyfleoedd gyrfa gwych mewn gwyddoniaeth i fenywod lleol, ond hefyd i un o raddedigion Peirianneg Gemegol o Brifysgol Kiyv, Iryna, a ymunodd â’r cwmni ar ôl dod i Gymru fel rhan o raglen uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid o Wcrain.

“Roedd dawn, egni ac angerdd y gwyddonwyr y siaradais â nhw yn ystod fy ymweliad yn ysbrydoledig ac rwy’n llongyfarch Power and Water am greu cyfleoedd mor hanfodol i wyddonwyr benywaidd yng Nghymru.”

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Mae datblygiad technoleg werdd a blaengar gan Power and Water yn creu cyfleoedd swyddi yn lleol ac yn ysgogi twf economaidd gwyrdd yng Nghymru a thu hwnt, gan gymryd rhan mewn prosiectau o Galiffornia a Singapôr yn ogystal â llawer yn y DU.

“Clywais am y cynlluniau cyffrous i ehangu eu busnes ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod atebion arloesol, cynaliadwy o’r fath yn ffordd ymarferol o gynorthwyo diwydiant, amaethyddiaeth a chwmnïau cyfleustodau gofleidio atebion cynaliadwy, glân.”

Ymhelaethodd Mike Rattenbury, Prif Swyddog Gweithredol Power and Water:

"Mae ein tîm o wyddonwyr a pheirianwyr yn hanfodol i gyflawni ein hymrwymiad i arloesi parhaus. Rydym yn falch iawn o'n hymagwedd agored at ymchwil a datblygu, ac ni allwn feddwl am enghraifft well o hynny'n cael ei gofleidio na chan ein tîm o wyddonwyr yn Abertawe.

“I ni yn Power and Water, mae’n hollbwysig ein bod yn meithrin y dalent wyddonol sydd gennym, ond hefyd ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i feithrin ac annog arloeswyr y dyfodol.

“Rydym yn sicr yn gobeithio y bydd Power and Water yn cael ei weld fel esiampl i’r rhai sy’n ystyried dilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth y gallant edrych ymlaen at yrfa werth chweil. Rydym yn falch iawn o’r dull arloesol parhaus y mae ein gwyddonwyr yn ei fabwysiadu i sicrhau bod ein datrysiadau trin dŵr gwastraff ecogyfeillgar yn parhau i fod yn gystadleuol i ofynion y farchnad.”

Sioned in a white coat using a pipet

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd