Ailadroddodd Sioned Williams heddiw ei galwadau ar Lywodraeth Cymru i gymryd ‘camau ar unwaith’ i fynd i’r afael â’r hyn y mae hi wedi’i ddisgrifio fel ‘argyfwng’ deintyddiaeth yn ei rhanbarth yng Ngorllewin De Cymru ac ar draws y wlad, yn dilyn cyhoeddi adroddiad newydd gan Gyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe.
Mae cleifion wedi gorfod aros am flynyddoedd i weld deintydd, gyda llawer heb allu cael apwyntiad o gwbl. Canfu’r adroddiad fod 70% o bobl yn teimlo dan bwysau i geisio gofal deintyddol preifat er mwyn cael apwyntiad. Ni all llawer gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG, gan gynnwys menywod beichiog a phlant. Ac mae apwyntiadau hanfodol yn cael eu gwrthod i gleifion â phroblemau meddygol difrifol sydd angen archwiliadau rheolaidd.
Dywedodd un claf: “Cwympodd fy mhont allan ar ddechrau 2020. Rwyf dal hebddi. Mae hyn yn effeithio ar fy hyder. Methu gwenu, chwerthin”. Mewn achos arall, gadawyd dyn i dynnu ei ddant ei hun o'i geg.
Cododd Sioned Williams y mater yr wythnos hon yn y Senedd mewn cwestiwn i’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.
Dywedodd Sioned Williams yn y Senedd:
“Mae adroddiad newydd Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe, ‘Cyrchu gofal deintyddol y GIG - mynd at wraidd y broblem’, yn rhoi darlun damniol o wasanaethau deintyddol yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'n pwysleisio bod y materion hyn wedi bodoli ers cyn y pandemig.
“Clywais adroddiadau tebyg gan gannoedd o’m hetholwyr mewn ymateb i arolwg diweddar a gynhaliais. Dywedwyd wrth un claf ei fod wedi cael ei ddadgofrestru'n awtomatig gan nad oedd wedi cael ei weld ers dwy flynedd - er ei fod wedi bod yn hunan-ynysu am y ddwy flynedd hynny!
Ychwanegodd Sioned yn ddiweddarach:
“Er fy mod yn croesawu cynllun y Llywodraeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar i wella gofal deintyddol, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod diwygio’r contract yn mynd i fynd i’r afael yn ddigonol ac ar fyrder â’r holl bryderon a adlewyrchir yn yr adroddiad, pryderon sy’n bodoli ledled Cymru.
“Mae angen cyllid digonol i gynyddu capasiti’r GIG er mwyn dod â’r loteri cod post anghyfiawn hwn i ben a sicrhau bod y rhai na allant fforddio talu neu na allant ddod o hyd i ddeintydd GIG yn cael y gofal y mae ganddynt yr hawl iddo.”