Sioned Williams yn cefnogi ein canol trefi

Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi ailddatgan ei chefnogaeth dros ganol trefi Castell-nedd a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae datganiad Llywodraeth Cymru "yn nodi’r heriau sy’n wynebu trefi, yn ogystal â’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i osod y sylfeini ar gyfer newid a galluogi cyflawni’n lleol i ddatblygu ein canol trefi fel lleoliadau ar gyfer ystod o wasanaethau, menter economaidd, gwaith ac i fod yn gymunedau sydd wedi’u cysylltu."

Wrth siarad ar Sharp End ITV neithiwr, tynnodd AS Gorllewin De Cymru sylw at yr angen am well cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ganol trefi yn lleol ac ar draws Cymru.

Mae ffigurau diweddar gan arbenigwyr diwydiant yn CGA gan NIQ ac AlixPartners yn dangos bod Cymru wedi gweld gostyngiad net o 1,001 o safleoedd lletygarwch trwyddedig dros y 3 blynedd diwethaf, sy’n cyfateb i ostyngiad net o -14.7% o’r holl safleoedd.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams:

"Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu'n angerddol yn ein cymunedau. Rydym yn credu'n angerddol bod canol ein trefi yn ganolbwyntiau cymunedol.

“Rydym hefyd yn credu bod yn rhaid i ni edrych ar y dull tref gyfan ac edrych ar angori’r gwasanaethau hynny – mae’n dda gweld Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny nawr, oherwydd cafwyd adroddiadau gan yr Archwilydd Cyffredinol a thystiolaeth gan yr Athro Karel Williams y bu gweithio seilo o fewn Llywodraeth Cymru, o fewn yr adrannau tai, yr amgylchedd, yr economi ac iechyd, ac mae'n dda gweld bod rhain nawr yn dod at ei gilydd.

"Un o'r prif bethau sy'n dod i'r amlwg yw trafnidiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae fy etholwyr yn dweud wrthyf fod problemau parcio yn effeithio ar nifer yr ymwelwyr. Mae'r rhai sy'n gweithio yng nghanol trefi hefyd yn dweud wrthyf nad oes bws i fynd â nhw adref ar ôl gwaith.

"Mae'n hanfodol bod y materion hyn yn cael eu hystyried oll ar yr un pryd, ochr yn ochr."

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd