Mae Sioned Williams AS wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am “botensial enfawr” Marchnad Castell-nedd
Mae Sioned Williams AS wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gyda chyfrifoldeb am Sero Net am y “potensial enfawr mewn cynhyrchu ynni ac effeithlonrwydd” ym Marchnad Castell-nedd.
Mae Ms Williams, sydd â’i swyddfa etholaeth o fewn 200 metr i'r farchnad, wedi gofyn pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i gynorthwyo awdurdodau lleol yn y dasg o wella effeithlonrwydd a gallu cynhyrchu ynni hen adeiladau, fel Marchnad Castell-nedd.
Adeilad rhestredig Gradd II yw Marchnad Castell-nedd sy'n dyddio'n ôl i 1837, ac er ei fod yn rhan eiconig o'r dref, mae masnachwyr a siopwyr yn cwyno yn rheolaidd am ba mor oer yw hi yn y gaeaf, a pha mor boeth y mae yn yr haf – arwydd clir o ba mor aneffeithlon yw'r adeilad ar hyn o bryd.
Mae adeiladau eisoes wedi cael eu hamlygu gan Lywodraeth Cymru fel maes blaenoriaeth i awdurdodau lleol i'w helpu i leihau eu hallyriadau carbon. Fodd bynnag, y pryder yw y gallai cost adnewyddu adeiladau hanesyddol fel Marchnad Castell-nedd fod yn anfforddiadwy iddynt, ac mae Ms Williams wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy i “feddwl y tu allan i'r bocs” i ddatblygu adeiladau hanesyddol fel Marchnad Castell-nedd.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae Llywodraeth Cymru yn sôn yn gyson am gael eu harwain gan yr egwyddor o ‘greu lleoedd’ mewn perthynas â'i rôl o ran cefnogi bywiogrwydd cymunedau a'r angen am bolisi a chamau gweithredu integredig i gyflawni hyn. Mae cyfle yma i amddiffyn y gorffennol drwy ddiogelu’r dyfodol trwy ddatblygu Marchnad Castell-nedd a'i helpu i ddod yn ganolbwynt a'r rheswm dros deithio i'r dref. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn digwydd heb i rai feddwl y tu allan i'r bocs, yn enwedig ar adeg pan nad oes gan awdurdodau lleol lawer o arian.
“Er mai'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o wneud hen adeiladau yn effeithlon yn aml yw eu disodli, nid yw hynny'n briodol ar gyfer Marchnad hanesyddol Castell-nedd. Mae Castell-nedd eisoes wedi colli gymaint, gydag ymadawiad siopau adrannol mawr fel Next a Marks and Spencer's. Mae angen dull gwahanol arnom sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud Castell-nedd mor arbennig.
“Os yw Llywodraeth Cymru yn cael hyn yn iawn ac yn gallu camu i mewn a chynorthwyo i wneud yr adeilad hanesyddol hwn yn effeithlon o ran ynni, yna mae hyn yn cyd-fynd â'n hamcanion newid hinsawdd, yn gwella'r amgylchedd i siopwyr a masnachwyr ac fe fyddai'n gwneud Marchnad Castell-nedd yn lle hyd yn oed yn fwy deniadol i weithio, masnachu a siopa.”
Llythyr
Anfonodd Sioned Williams AS y llythyr at Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ddydd Iau 1 Awst (yn Saesneg):
Dear Cabinet Secretary
I would like to know if you could inform me about what support is being made available to local authorities to meet their net-zero targets.
In 2023, the public sector in Wales emitted 3,118 kilotonnes CO2 equivalent. 44% of that came from local authorities – with buildings are a key contributor to this figure. In the route map to decarbonisation, published by the Welsh Government, buildings – unsurprisingly – are highlighted as one of the four priority areas.
While there are a number of buildings that, due to their age and energy inefficiency, replacement has been a sensible and cost effective approach to take, there are also many buildings owned by local authorities that have a deep historic value that means that renovation, rather than replacement, has to be the way forward.
Neath Market, for example, sits at the heart – figuratively and geographically – of Neath town centre. The building dates back to 1837, however it was renovated in 1904 and is Grade II listed. While there is enormous potential in energy generation and efficiency on this building, costs of undertaking this work would present a significant barrier at a time of tight budgets. Across the South Wales West region, there are many other buildings of historic significance or value that could play an important role in delivering net-zero ambitions.
Can you outline what support is being made available by the Welsh Government to assist local authorities in the task of improving the energy efficiency and generating capacity of old buildings, such as Neath Market, where the costs associated with this work could be prohibitive?
Yn gywir / Yours faithfully,
Sioned Williams AS/MS