Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwilio i gynllun Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe, ac i greu ysgol newydd enfawr ym Mhontardawe.
Bydd tair ysgol – yn yr Alltwen, Godre’rgraig a Llangiwg yn cau os bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynlluniau. Yn ddiweddar bu'r cynigion yn destun cyfnod ymgynghori statudol.
Mae'r AS bellach wedi ysgrifennu at Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, gan honni y bydd y cynllun yn arwain at fwy o draffig a dirywiad yn ansawdd yr aer – sy’n mynd yn groes i'r egwyddor datblygu cynaliadwy sy'n sail i'r Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dywedodd Sioned Williams:
“Rwyf wedi bod â phryderon ers cryn amser ynghylch sut y defnyddir Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghymru weithiau i ganoli darpariaeth addysg, a all arwain at gynnydd mewn ôl troed carbon - yn arbennig o ran cynyddu pellteroedd teithio o'r cartref i'r ysgol.
“Yn aml, bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn cyflwyno cynlluniau cyllid i Lywodraeth Cymru sy’n ceisio cau dwy ysgol gymunedol neu fwy, a chreu ysgol ‘ardal ’ fwy yn eu lle.
“Dyma’r sefyllfa yng Nghwm Tawe ar hyn o bryd, lle mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynllunio cau tair ysgol gynradd gymunedol hyfyw a llwyddiannus – yr Alltwen, Godre’rgraig a Llangiwg a chreu un ysgol enfawr ganolog ym Mhontardawe.
“Credaf fod y symudiad cynyddol hwn tuag at ddarparu ysgolion mwy am gost gyfartalog is fesul disgybl, yn gweithio yn erbyn yr egwyddor datblygu cynaliadwy sy'n sail i'r Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol.
Ychwanegodd:
“Mae symud ysgolion cynradd o bentrefi llai nid yn unig yn cael effaith negyddol ar fywyd cymunedol, ond mae hefyd yn cael effaith amlwg ar ôl troed carbon. Mae cynigion o'r math hwn yn aml yn methu â chydnabod amcanion strategol cenedlaethol - er enghraifft yr ymgyrch i wella ansawdd aer, cynyddu lefelau ymarfer corff ymhlith pobl ifanc a lleihau teithio mewn car.
“Yn achos y cynllun yng Nghwm Tawe, bydd creu ysgol enfawr newydd ym Mhontardawe yn amlwg yn arwain at lai o blant yn cerdded i’r ysgol, mwy o geir yn teithio i ardal sydd eisoes yn llawn tagfeydd ym Mhontardawe a gostyngiad yn ansawdd yr aer i drigolion lleol. .
“Mae Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol yn sôn am yr angen i gymryd golwg tymor hir, o bwysigrwydd cydweithredu ac atal problemau rhag digwydd neu waethygu. Fy marn i yw bod y cynllun yng Nghwm Tawe yn methu ar bob un o'r tri chyfrif hyn.
“Rwyf felly wedi ysgrifennu at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn iddi gynnal ymchwiliad i’r cynllun ar gyfer addysg gynradd yng Nghwm Tawe i brofi a yw’r cynllun a’r effaith y bydd yn ei gael o ran traffig yn bodloni’r egwyddorion yn Neddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol.
“Rwyf hefyd wedi gofyn iddi ymchwilio i weld a yw Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn darparu digon o ffocws ar yr egwyddor o ddatblygu cynaliadwy, a nodau strategol Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael gyda diffyg ymarfer corff pobl ifanc, ansawdd aer a lleihau teithio mewn car.”