AS Plaid Cymru yn gwrthwynebu cau ysgolion Cwm Tawe yn ffurfiol

Mae’r AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi gwrthwynebu cynlluniau Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau 3 ysgol yng Nghwm Tawe yn swyddogol.

Cytunodd y Cabinet Llafur ar Fehefin 16eg 2021 gynnig i sefydlu ysgol gynradd enfawr cyfrwng Saesneg newydd ym Mhontardawe, i ddisodli Ysgolion gynradd Alltwen, Godre'rgraig a Llangiwg - ac i symud i'r cam nesaf yn y broses, sef i gyhoeddi hysbysiad statudol.

Cyhoeddwyd yr hysbysiad ar Fehefin 17eg gyda chyfnod o 28 diwrnod ar gyfer derbyn gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig. Y dyddiad cau ar gyfer anfon gwrthwynebiadau yw dydd Mercher yma, sef Gorffennaf 14eg.

Yna bydd Cabinet y Cyngor yn cyfarfod eto i ystyried y gwrthwynebiadau cyn penderfynu a fydd y cynlluniau i gau yr ysgolion yn mynd yn eu blaen.

Mae Sioned Williams AS, sydd wedi ymgyrchu ers amser maith yn erbyn cau’r 3 ysgol,  bellach wedi ysgrifennu’n ffurfiol mewn ymateb i’r hysbysiad statudol.

Dywedodd Sioned Williams:

“Rwyf wedi anfon gwrthwynebiad ffurfiol yn erbyn y cynnig i sefydlu ysgol newydd ym Mhontardawe a chau ysgolion Alltwen, Godre'rgraig a Llangiwg, ac mae yna lawer o resymau dros wneud hynny.

“Dangosodd yr adroddiad ar yr ymgynghoriad a gyflwynwyd i’r Cabinet a reolir gan Lafur ar Fehefin 16eg, o’r 234 o ymatebion a dderbyniwyd, mai dim ond 21 oedd o blaid y cynllun. Nodwyd hefyd bod 413 o lofnodion ar ddeiseb ar-lein yn erbyn y cynlluniau.

“Felly, mae'n gwbl amlwg o'r adroddiad ymgynghori mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd i'r ysgol gynradd enfawr newydd yn y gymuned y mae i fod i'w gwasanaethu.

“Yn ychwanegol at wrthwynebiad llethol y cymunedau y bydd y cynllun yn effeithio arnyn nhw, rwy’n credu bod yr ymgynghoriad ynddo’i hun yn broses ddiffygiol. Yn gyntaf, ymgynghorwyd ar y cynigion yn ystod cyfnod digynsail o argyfwng cenedlaethol. Ni wnaeth cynnal yr ymgynghoriad hwn yn ystod argyfwng Covid ganiatáu ymgysylltiad llawn ac agored â'r Cyngor ar fater o bwys enfawr i drigolion lleol.

“Yn ail, daeth y cyfnod ymgynghori i ben cyn i'r recordiad o gyn arweinydd y cyngor Rob Jones ddod i’r amlwg. O ystyried y sylwadau yr honnir iddynt gael eu gwneud gan y Cynghorydd Jones yn datgan ei gefnogaeth i ysgolion enfawr newydd, roedd llawer o drigolion yn teimlo nad oedd y broses ymgynghori yn ystyrlon. Felly effeithiwyd ar uniondeb y broses ymgynghori ac er budd tryloywder a llywodraethiant da, dylai'r broses fod wedi ei hatal. ”

Ychwanegodd Sioned Williams fod ganddi bryderon hefyd o ran y ffaith na ddarparwyd unrhyw asesiad Cymraeg adeg yr ymgynghoriad, ac mae'n dadlau y bydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar y ddarpariaeth gyfredol yn Ysgol Gymraeg Pontardawe ac Ysgol Gymraeg Trebannws yn ogystal â thwf Addysg Gymraeg yn ardal Pontardawe - a fydd yn ei dro yn effeithio ar drosglwyddiad disgyblion i Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Mae hyn mewn gwrthwynebiad uniongyrchol i nodau datganedig WESP y Sir a strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Rwyf hefyd yn rhannu pryderon trigolion lleol o ran yr effaith ar draffig yn yr ardal hon o Bontardawe os datblygir yr ysgol newydd hon. Mae'r lleoliad yn anaddas gan y bydd yn cynyddu traffig sydd eisoes yn hynod brysur a fydd yn anochel yn cynyddu lefelau llygredd aer. Mae hyn yn groes i nodau penodol Llywodraeth newydd Cymru o ran gwella llygredd aer ac annog pobl rhag defnyddio eu ceir.

“I mi, mae effaith niweidiol y cynllun ar deuluoedd difreintiedig yn un o’i ddiffygion mwyaf difrifol ac nid yw'r adroddiad ar yr ymgynghoriad yn mynd i’r afael â’r agwedd hon yn ddigonol. Os yw'r cynlluniau'n golygu bod hyd yn oed un plentyn yn colli allan ar ddarpariaeth feithrin oherwydd nad yw'n gallu mynd i'r ysgol heb ddefnyddio car, yna un plentyn yn ormod yw hynny. Yn yr un modd, bydd colli mynediad at glwb brecwast yn y gymuned a darpariaeth ar ôl ysgol yn cael effaith andwyol ar y rhai sydd angen y gefnogaeth hon fwyaf.

“Mae cymunedau bywiog yn hanfodol i gymdeithas lewyrchus a  chydweithredol. Mae'r cynlluniau yn disodli ysgolion hyfyw, llwyddiannus a hygyrch, sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymuned ac yn cyfrannu'n fawr at fywyd a lles y cymunedau hynny, gyda strwythur sydd heb gefnogaeth ac a ystyrir yn amhriodol gan fwyafrif llethol y rhieni, llywodraethwyr, trigolion lleol. a chynrychiolwyr lleol. Rwy’n gwrthwynebu’r cynlluniau yn y termau cryfaf posibl."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd