Mae Sioned Williams yn adleisio galwadau’r Ffederasiwn Busnesau Bach i ostwng ardrethi busnes yng nghanol trefi.
Mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu i achub canol ein trefi” drwy ostwng trethi busnes.
Gwnaeth Sioned Williams y sylwadau hyn, gan adleisio galwadau’r Ffederasiwn Busnesau Bach, mewn cwestiwn i Weinidog yr Economi yn y Senedd heddiw. Mae hyn yn dilyn cwynion a godwyd gan fusnesau stryd fawr lleol yn ei rhanbarth eu bod yn ei chael yn anodd ymdopi ag ardrethi busnes uchel.
Mewn cwestiwn i Weinidog yr Economi heddiw, dywedodd Sioned Williams:
“Mewn arolwg gan y Ffederasiwn Busnesau Bach fel rhan o’u hadroddiad newydd A Vision for Welsh Towns, dywedodd pobl Cymru taw ‘siopau bach ac annibynnol ffyniannus’ oedd yr hyn y byddent yn hoffi ei weld fwyaf yng nghanol eu tref neu stryd fawr leol.
“Hyd yn oed cyn Covid, roedd canol trefi yn fy rhanbarth yn ei chael hi’n anodd ac mae’r pandemig wedi cael effaith arbennig o negyddol ar fusnesau manwerthu bychain sy’n cael eu rhedeg gan deuluoedd yng nghanol ein trefi.
“Mae’r gefnogaeth a roddwyd i’r busnesau lleol hyn yn ystod y pandemig wrth gwrs wedi eu helpu i oroesi’r storm arbennig honno, ond nawr er bod cyfyngiadau’n llacio, mae nifer yr ymwelwyr yn parhau I fod yn isel ac mae’r biliau’n cynyddu.
“Wrth i ardrethi busnes uchel ddwysau’r heriau sy’n wynebu canol trefi, a wnaiff y Gweinidog ystyried cynyddu’r rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu canol trefi, a gwrando ar alwad y Ffederasiwn Busnesau Bach i gyhoeddi ar fyrder ei adolygiad o’r system ardrethi busnes ac amlinellu cynigion ar gyfer diwygio sylweddol sy’n gweithio i fusnesau bach lleol?”
Yn ei chwestiwn, cyfeiriodd Sioned Williams at ei thrafodaeth gyda pherchennog busnes sydd wedi rhedeg siop yng nghanol tref Castell-nedd am fron I ddegawd, a ddywedodd:
“Gyda chefnogaeth yn dod i ben a threthi busnes uchel ar ben hynny, rydyn ni’n cael amser caled.
“Byddai cyfraddau busnes is yn help mawr, yn enwedig wrth i filiau ynni godi’n aruthrol."