Hen safleoedd glo anniogel yn “atgof o orffennol gormesol” i gymunedau Cymru, meddai Sioned Williams AS

Mae Plaid Cymru yn annog Llywodraeth y DG i dalu tuag at wneud cannoedd o domenni a hen safleoedd glo brig yn ddiogel, fel East Pit yn Nhairgwaith, Castell-nedd Port Talbot

An image showing the map of the region around East Pit in Tairgwaith

Mae data diweddar (Tachwedd 2023) yn datgelu bod 350 o domenni glo anniogel ar draws ardaloedd 14 o awdurdodau lleol Cymru, cynnydd o dros 50 ers 2021 oherwydd newid yn yr hinsawdd.

Mae 41 o’r rhain yng Nghastell-nedd Port Talbot, 42 yn awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr, a 5 yn sir Abertawe – rhanbarth sy’n cynnwys dros 900 o domenni.

Casglwyd y wybodaeth gan y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo, a sefydlwyd ar ôl tirlithriad hen domen lo yn Tylorstown, Rhondda Cynon Taf, ym mis Chwefror 2020.

Mae Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi dweud mai’r peryglon amgylcheddol a adawyd gan gloddio a chwarela yw etifeddiaeth hanes diwydiannol y wlad , rhywbeth sy’n rhagflaenu cyfnod datganoli, ac yn achosi pryder i gymunedau cyfagos, megis y rhai sy’n byw ger East Pit.

Wrth drafod cynnig yn y Senedd, mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i fonitro tomenni a hen safleoedd glo brig yn effeithiol, sicrhau gwaith ataliol i osgoi perygl a gwaith adfer i leihau risgiau presennol.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi annog Llywodraeth y DG i ddarparu cyllid ar frys ar gyfer y drefn archwilio a chynnal a chadw ac i ysgwyddo costau hirdymor gwneud tomenni glo a hen safleoedd diwydiannol yn ddiogel.

Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:

“Mae Castell-nedd Port Talbot wedi ei greithio gan ganrifoedd o gloddio a chwarela. Nid creithiau yn y dirwedd yn unig yw’r rhain ond mae’r peryglon amgylcheddol a adawyd ar ôl hefyd wedi creithio cymunedau. Mae plant Godre’r-graig, yng nghwm Tawe, wedi gorfod cael eu haddysgu mewn cabanau symudol mewn ysgol filltiroedd i ffwrdd o’u pentref ers 2019, oherwydd asesiad o’r risg o domen sbwriel y chwarel i ysgol eu pentref. Mae hyn wedi achosi torcalon yn y gymuned.

“Mae’r creithiau hyn hefyd yn amlwg yn y pryder a achosir wrth fyw ger tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill. Gallaf dystio i’r ffaith o gyfarfod â thrigolion sy’n byw ger East Pit yn Nhair Gwaith, fod y pryder hwn yn un gwirioneddol, yn pwyso’n drwm ar gymunedau, ac yn annerbyniol.”

Dywedodd Delyth Jewell AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd:

“Mae pobl Cymru’n haeddu teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi ac mae’n syfrdanol a thu hwnt i bob rheswm fod San Steffan yn dal i wrthod talu tuag at wneud y safleoedd hyn yn ddiogel. Rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn mynnu bod yn rhaid i San Steffan dalu ar frys tuag at wneud y tomennydd hyn a hen safleoedd diwydiannol yn ddiogel.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd