Plaid yn beirniadu rhagrith Llafur ar bolisi cap dau blentyn

“Mae hyn yn rhagrith syfrdanol gan Lafur” - Sioned Williams AS

Cyfweliad Sioned Williams AS yn Eisteddfod yr Urdd

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Llafur o “rhagrith syfrdanol” ar y cap budd-dal dau blentyn.

Heddiw, mae prif weinidog Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog Syr Keir Starmer i ddileu’r cap budd-dal dau blentyn. Mae hyn yn dilyn adroddiadau bod Llywodraeth y DU bellach yn ystyried dileu’r polisi cyn eu hadolygiad gwariant.

Dywedodd llefarydd cyfiawnder cymdeithasol a blynyddoedd cynnar Plaid Cymru, Sioned Williams, fod yr alwad yn dangos “rhagrith syfrdanol” gan fod y polisi yn un y mae Llafur wedi gwrthod ei wrthwynebu dro ar ôl tro yng Nghaerdydd a San Steffan gan rwystro ymdrechion i ddod â’r polisi i ben ychydig fisoedd yn ôl.

Dywedodd Eluned Morgan hefyd fod ei llywodraeth yn “bryderus iawn am dlodi plant”. Mae tlodi plant wedi bod yn gyfrifoldeb Llywodraeth Lafur Cymru am y 26 mlynedd diwethaf.

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd y mis diwethaf yn dangos bod tlodi plant wedi codi 2% i 31% yng Nghymru, y cynnydd uchaf o holl genhedloedd y DU.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, Sioned Williams AS,

“Mae hyn yn rhagrith syfrdanol gan Lafur.

“Y Nadolig diwethaf, gwnaeth Eluned Morgan wawdio Plaid Cymru am fynnu cael gwared ar y cap dau blentyn. Mor ddiweddar â mis Hydref diwethaf, pleidleisiodd ASau Llafur yn erbyn ein galwadau yn y Senedd i sefyll dros blant mewn tlodi a dod â’r cap creulon hwn i ben.

“Yn y cyfamser yn San Steffan, ni chefnogodd unrhyw AS Llafur Cymru ein hymdrechion i’w ddileu - ac ataliodd Keir Starmer ei ASau ei hun am bleidleisio i amddiffyn plant.

“Nawr, yn sydyn, mae Llafur yn newid eu tôn. Byddai rhywun yn cael ei faddau am feddwl nad yw hyn yn ymwneud ag egwyddor, ond panig - wedi’i yrru gan arolygon barn, nid gwerthoedd.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson o’r dechrau. Rydym wedi ymladd i gael gwared ar y cap dau blentyn oherwydd mai dyma’r peth iawn i’w wneud i filoedd o blant sy’n tyfu i fyny mewn tlodi. Yng Nghymru, fe wnaethom arwain y ffordd ar brydau ysgol am ddim cyffredinol. Ac yn y llywodraeth, rydym yn addo cyflwyno Taliad Plant Cymru - taliad wythnosol uniongyrchol i gynnig cymorth go iawn, wedi’i dargedu i gefnogi teuluoedd sydd ei angen fwyaf.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd