Yr wythnos hon, galwodd AS Plaid Cymru Sioned Williams ar Lywodraeth Lafur Cymru i wneud mwy i gefnogi Ymchwil a Datblygu yng Nghymru.
Mewn ymateb i gyhoeddiad Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-2024, fe amlygodd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru sylw at y tanfuddsoddi hirsefydlog sydd mewn ymchwil a datblygu yng Nghymru, ac fe fynegodd bryderon nad yw’r gyllideb yn ymdrin â hyn yn ddigonol.
Yn ystod dadl yn y Senedd ddoe, dywedodd Sioned Williams:
"Dros y degawd diwethaf, Cymru sydd wedi bod â'r lefel isaf o wariant ymchwil a datblygu fel cyfran o'i gwerth ychwanegol crynswth ymhlith holl wledydd y Deyrnas Gyfunol. Ffactor allweddol yn hyn yw'r diffyg cymharol o gyllid ar sail ansawdd—QR—gan Lywodraeth Cymru i dalu am bethau nad yw grantiau eraill yn eu cynnwys, sy'n peryglu, wedyn, gallu prifysgolion Cymru i gystadlu am y cyllid ymchwil ac arloesi sydd ar gael iddynt, ac mae'r ffigurau yn darlunio hyn yn glir."
Aeth Sioned Williams ymlaen i fynegi ei "siom" nad yw ymchwil a datblygu a'r sector prifysgolion "yn cael eu cefnogi yn ddigonol" gan y gyllideb, gan dynnu sylw at y ffaith "bod y sefyllfa bresennol o ran ein sefyllfa ôl-Brexit, lefel chwyddiant, cyflwr yr economi a'r argyfwng costau byw oll yn fwy o reswm iddynt weithredu i gynnal y sector a'r gwaith ymchwil a datblygu sy'n sail mor bwysig i ffyniant ein cenedl a'n cyfraniad i'r byd."
Gwyliwch ei chyfraniad isod: