Ysgrifennais yn ddiweddar at Gyngor CNPT ynghylch cyn-siop Reggae Reptiles ar Heol y Frenhines, Castell-nedd. Nid yn unig y mae’n anharddu un o'r strydoedd prysuraf yng nghanol y dref, gallai fod yn berygl i iechyd a diogelwch y cyhoedd ac i seilwaith yr adeiladau cyfagos. Teimlaf fod y sefyllfa hon wedi cael ei gadael heb ei datrys ers llawer rhy
Digwyddodd y tân a ddinistriodd yr adeilad hwn dros 6 mlynedd yn ôl (Chwefror 2016) ac eto mae cragen wag yr adeillad yno o hyd. Cyhoeddwyd Hysbysiad Atal mewn perthynas â Hysbysiad Statudol ar 10 Mawrth 2022 gan Swyddfa Iechyd yr Amgylchedd CNPT ond nid yw'n ymddangos bod unrhyw beth pellach wedi digwydd.
Dyma’r ymateb a gefais gan y Prif Weithredwr Karen Jones,
“Gallaf gadarnhau bod swyddogion o Adain Rheoli Adeiladau’r Cyngor wedi ymweld â’r adeilad o bryd i’w gilydd ers iddo gael ei ddinistrio gan dân, a bod camau wedi eu cymryd i godi ffens i atal mynediad cyhoeddus a sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Fe’m hysbysir, yn anffodus, bod perchennog yr adeilad wedi marw a bod yr eiddo’n rhan o ystâd ehangach sydd ar hyn o bryd yn destun anghydfod etifeddiaeth. O ganlyniad, nid oes unrhyw berson adnabyddadwy i gymryd cyfrifoldeb am yr adeilad ar hyn o bryd.
Er bod fy swyddogion yn cynghori nad yw'r eiddo yn peri unrhyw berygl uniongyrchol i'r cyhoedd, mae ei gyflwr diffygiol a'i leoliad amlwg yn peri pryder. Ymhellach, o ystyried hyd yr amser mae'r adeilad wedi aros yn wag, mae'r eiddo hwn wedi ei adnabod fel blaenoriaeth i'r Cyngor o ran dod â fe yn ôl i ddefnydd.
Fel rhan o gynllun gweithredu strategol y Cyngor i ymdrin ag adeiladau masnachol gwag yng nghanol y dref, mae Swyddog Iechyd yr Amgylchedd wedi cysylltu yn ddiweddar â’r cyfreithwyr a benodwyd i fwrw ymlaen â’r cais profiant.
Tra bod yr Adran yn aros am ddiweddariad, gallaf gadarnhau bod pob opsiwn sydd ar gael yn cael ei ystyried i wella agweddau gweledol yr adeilad ac i ddod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd, gan gynnwys cychwyn y broses werthu orfodol os oes angen.”
Er gwaethaf y rhwystrau cyfreithiol dealladwy, rwy’n gofyn ar i'r cyngor i wneud yn siŵr bod yr opsiynau a grybwyllwyd i sicrhau nad yw’r adeilad bellach yn anharddu canol y dref nac yn berygl i’r cyhoedd yn cael eu gweithredu ar fyrder.
Rhaid cydnabod pwysigrwydd cael canol trefi diogel, glân a deniadol ar gyfer siopa, hamdden a lletygarwch. Mae ganddynt ran hanfodol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein heconomi a'n cymdeithas; rhaid inni achub ar bob cyfle i’w hamddiffyn a’u hadfywio a chreu cymunedau bywiog, llewyrchus.