“Cywilyddus” bod gwasanaeth “hanfodol” yn wynebu cau, fisoedd ar ôl i’r sylfaenydd dderbyn anrhydedd am ei gwaith
Yn dilyn cwestiwn gan Sioned Williams AS yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 15 Ionawr), mae’r Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol am Iechyd wedi dweud y byddai’n “hapus iawn i gwrdd” ag elusen yn Abertawe sy’n cefnogi pobl ifanc LHDTC+ gyda’u hiechyd meddwl.
Yn y Senedd ddydd Mercher, cododd Sioned Williams AS sefyllfa Cwnsela Progress Cymru, a fydd, heb ragor o gefnogaeth ariannol, yn gorfod cau eu drysau ar ôl 20 mlynedd o helpu pobl ifanc a’u teuluoedd.
Amlinellodd Ms Williams y ffigurau brawychus bod bron i 60% o bobl LHDTC+ wedi ystyried o ddifrif ceisio lladd eu hunain, tra bod bron i 1 o bob 5 wedi ceisio lladd eu hunain.
Amlygodd hefyd fod sylfaenydd Cwnsela Progress Cymru, Debbie Lane, wedi cael ei chydnabod am ei gwasanaethau ym maes iechyd meddwl pobl ifanc yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.
Mae Ms Williams wedi dweud ei bod yn “gywilyddus” y gallai’r “holl waith da hwn” ddod i ben ym mis Ebrill, pan fydd yr elusen yn dweud y bydd yn rhedeg allan o gyllid.
Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Jeremy Miles AS, drwy ddweud y byddai’n “hapus i gwrdd” â Chwnsela Progress Cymru a chytunodd â Ms Williams eu bod yn “amlwg” yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae Cwnsela Progress Cymru yn sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid yn unig dyn nhw erioed wedi colli rhywun y maent nhw wedi’i gefnogi, ond o’r atgyfeiriadau a wnaed iddynt, nid fu angen ailgyfeirio’r un ohonynt yn ôl at y GIG.
“Mae hwn yn fodel arbennig i o ofal iechyd meddwl ataliol – yn wir, mae cyfrifiadau’n dangos eu bod yn arbed dros filiwn o bunnoedd y flwyddyn i’r llywodraeth.
“Mae’n gywilyddus y gallai’r holl waith da hwn ddod i ben cyn hir, oherwydd diffyg cyllid. Mae’n ergyd benodol i Debbie Lane o fod wedi derbyn anrhydedd, ac yna yn wynebu gorfod cau dri mis yn ddiweddarach.
“Bydd colli sefydliadau fel Progress Cymru yn golygu y bydd mwy o bobl ifanc yn cael trafferth i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac efallai na fydd rhai yn cael yr help sydd ei angen arnynt mewn pryd. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad yw gwasanaethau hanfodol fel y rhain yn cael eu colli.”