Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, yn ymateb i'r diweddaraf ynghylch achos llofruddiaeth Logan Mwangi
Mae gwelliannau wedi'u gwneud i wasanaethau plant Pen-y-bont ar Ogwr yn ôl arolygwyr, ar ôl i fachgen pump oed gael ei lofruddio gan ei deulu.
Fodd bynnag, dywed Arolygiaeth Gofal Cymru fod angen gwelliannau pellach o hyd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Logan Mwangi ei lofruddio gan ei fam, ei lys-dad a bachgen yn ei arddegau ym mis Gorffennaf 2021. Cafodd ei gorff ei ollwng yn Afon Ogwr ger ei gartref yn Sarn. Cafodd ei fam Angharad Williamson, ei lys-dad John Cole a Craig Mulligan ddedfrydau oes am ei lofruddiaeth.
Cynhaliwyd y gwerthusiad diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Cymru rhwng 21 a 24 Tachwedd, a chyhoeddwyd adroddiad ddydd Mercher, 15 Chwefror, ac mae’n ddilyniant i werthusiad perfformiad a gynhaliwyd ym mis Mai 2022.
Siaradaodd yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams gyda BBC Wales Today a Newyddion S4C yn ddiweddar ynghylch y datblygiad hwn.
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Sioned Williams:
“Rwy’n croesawu’r gwelliannau ond mae angen gwneud mwy eto i sicrhau na fydd trasiedi erchyll fel hyn byth yn digwydd eto.
“Fel aelod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, rwyf wedi clywed o lygad y ffynnon am effaith y pwysau ar weithwyr cymdeithasol ar blant a phobl ifanc - gyda rhai yn sôn am effaith cael 32 o weithwyr cymdeithasol gwahanol, rhai yn siarad am cael gweithiwr cymdeithasol asiantaeth am wythnos yn unig.
“Galwaf eto ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael yr adnoddau priodol, ac am adolygiad annibynnol o waith cymdeithasol plant ledled Cymru, yn debyg i’r rhai a gynhaliwyd yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, fel y galwodd yr Athro Donald Forrester a BASW Cymru amdanynt yn flaenorol.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n pryderu am les unrhyw blentyn, boed yn bryderon o gam-drin corfforol neu emosiynol, esgeulustod neu reolaeth drwy orfodaeth, i roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol.”
Manylion cyswllt ar gyfer codi pryderon ynghylch diogelwch plant ar draws rhanbarth Gorllewin De Cymru:
Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr: 01656 642320
Cyngor Castell-nedd Port Talbot: 01639 686802
Cyngor Abertawe: 01792 635700