Academi Sgiliau ym Mhort Talbot sy'n darparu hyfforddiant i gyn-weithwyr dur yn cael ei daro gan doriadau cyllid
Mae cwmni sy'n darparu gwasanaeth cyflogadwyedd a hyfforddiant i bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys rhai sydd wedi eu heffeithio gan ddiswyddiadau yng ngwaith dur Tata, yn wynebu diswyddiadau oherwydd toriadau cyllid.
Trwy raglenni Multiply a Sgiliau Digidol Llywodraeth y DG, o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DG (UKSPF), mae Whitehead-Ross Education wedi helpu 300 o bobl o ardal Port Talbot i ddod o hyd i waith, gan gynnwys 100 sydd â chyswllt uniongyrchol â'r gwaith dur ym Mhort Talbot a'i gadwyn gyflenwi.
Ond ers i Lywodraeth y DG gyhoeddi bod y cyllid Multiply yn dod i ben, a gydag ansicrwydd am ddyfodol y rhaglen Sgiliau Digidol, mae'r cwmni wedi dechrau prosesau diswyddo ar gyfer chwe aelod o staff, gyda phump ohonynt wedi'u lleoli yn eu Hacademi Gyflogadwyedd yn Aberafan.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Ian Ross fod y gefnogaeth y mae ei gwmni yn ei ddarparu i bobl ym Mhort Talbot “mewn perygl gwirioneddol.”
Wrth siarad yn y sesiwn Gwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe (dydd Mawrth 29 Ionawr 2025), gofynnodd Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams AS, pa waith sydd wedi'i wneud i ddatblygu rhaglen cyflogadwyedd genedlaethol newydd i dargedu pobl economaidd anweithgar sydd angen help i allu dychwelyd i'r gweithle, ar ôl i Raglen Sgiliau Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ei hun ddo i ben ym mis Mawrth 2023.
Mewn ymateb, nododd y Prif Weinidog Eluned Morgan fod rhaglenni eraill ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys Cymunedau am Waith sy'n helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau i ailymuno â'r farchnad gyflogaeth, a ReAct sydd ar gael i bobl sydd ar gyfnod rhybudd o ddiswyddiad.
Fodd bynnag, dywedodd Mr Ross bod cynlluniau hyn prin yn crafu’r wyneb.
Dywedodd Sioned Williams AS, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru:
“Mae gan Gymru y gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd o unrhyw ran o'r DG o hyd, yn ogystal â'r gyfradd gyflogaeth isaf.
“Mae hyd yn oed yn fwy hanfodol bod pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael cynnig cefnogaeth wedi'i theilwra yn y gymuned fel y cyrsiau sy'n cael eu rhedeg yn Academi Gyflogadwyedd Aberafan, ochr yn ochr â chyrsiau eraill sydd ar gael mewn colegau lleol, yn dilyn y colli swyddi trychinebus yn Tata Steel.
“Mae'r model a ddangoswyd i fi gan Whitehead-Ross Education yn ffocysuar deilwra cyrsiau i bobl a allai deimlo nad yw rhaglenni sgiliau mwy traddodiadol ar eu cyfer. Yn fwy na hynny, darperir eu hyfforddiant yng nghanol y gymuned a fydd yn cael ei effeithio fwyaf gan y sefyllfa economaidd bresennol ym Mhort Talbot.
“Mae'n amlwg nad yw’r rhaglenni presennol sydd gan Lywodraeth Cymru yn eu lle yn gweithio.
“Mae'n ddyletswydd ar Lywodraethau y DG a Chymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer y rhaglenni hyfforddiant a sgiliau a ddarperir gan gwmnïau fel Whitehead-Ross Education yn gynaliadwy, fel bod modd cefnogi pobl yn y rhanbarth rwy'n eu cynrychioli, gan gynnwys y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y colledion swyddi ym Mhort Talbot, ym mhob ffordd bosibl i'w helpu i ailsgilio ac uwchsgilio.”
Dywedodd Ian Ross, Prif Swyddog Gweithredol Whitehead-Ross Education:
“Yn ardal Port Talbot yn unig, mae Whitehead-Ross Education wedi cefnogi dros 300 o bobl i ailhyfforddi ac adeiladu eu sgiliau er mwyn dod o hyd i waith. Fodd bynnag, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth newydd y DG, mae'r gefnogaeth honno mewn perygl gwirioneddol.
“Mae colli cyllid yn golygu ein bod yn colli staff. Unwaith y byddwn yn colli staff, mae'n anodd penodi rhai yn eu lle, ac mae'r effaith ar y gymuned leol yn sylweddol.
“Prin fod cynlluniau fel ReAct a Cymunedau am Waith yn crafu'r wyneb o'i gymharu â thoriadau sy'n dod gan Lywodraeth y DG.
“Rydym yn deall y bydd pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn colli rhwng £4 miliwn a £6 miliwn; Mae'r cyllid UKSPF hwn wedi bod yn hanfodol i gefnogi pobl i ailhyfforddi ac ailsgilio, a bydd ei golled yn effeithio'n sylweddol ar economïau lleol.
“Mae bellach yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhywfaint o'u £1.7 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DG i greu Rhaglen Cyflogadwyedd Genedlaethol i Gymru, wedi i’w Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd i oedolion ddod i ben yn 2023.”