Mae Sioned Williams, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, wedi croesawu’r newyddion bod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi pleidleisio yn erbyn cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd enfawr newydd ym Mhontardawe.
Byddai’r cynnig wedi gweld ysgolion cynradd yr Alltwen, Llangiwg a Godre’r Graig yn cau er mwyn adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer mwy na 750 o ddisgyblion cynradd ym Mhontardawe.
Wedi'i basio'n wreiddiol gan y weinyddiaeth Lafur flaenorol, cafwyd gwrthwynebiad cryf o fewn y gymuned i'r cynnig. Yn dilyn etholiadau lleol 2022, cynhaliodd y Glymblaid Enfys newydd a ffurfiwyd gan grwpiau Annibynnol a Phlaid Cymru, gyda chefnogaeth cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol a Gwyrdd, adolygiad o’r cynllun.
Dywedodd Sioned Williams AS, sydd hefyd yn byw yn yr Alltwen ac yn gefnogwr ymgyrch Achub ein Hysgolion;
“Rwy’n falch iawn bod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi pleidleisio yn erbyn cynigion ar gyfer ysgol enfawr gynradd newydd ym Mhontardawe heddiw – a fyddai wedi gweld ysgolion cynradd yr Alltwen, Llangiwg a Godre’r Graig yn cau.”
“Mae’r penderfyniad hwn nid yn unig wedi rhoi terfyn ar gynllun diangen ac amhriodol, mae hefyd yn rhoi terfyn ar y ffordd mae Cyngor CNPT wedi gweithredu’n rhy hir yn y gorffennol o dan reolaeth Llafur, ac yn dangos ymroddiad Plaid Cymru a’r Glymblaid Enfys i roi cymunedau wrth galon democratiaeth leol. Diolch i bawb sydd wedi ymgyrchu mor galed dros y canlyniad hwn."
“Cafodd Llafur eu gwrthod yn y blwch pleidleisio yn etholiadau lleol CNPT y llynedd yn rhannol oherwydd eu bod yn anwybyddu anghenion y cymunedau yr oeddent yn eu cynrychioli, gan ddewis gwneud pethau i gymunedau yn hytrach nag ar y cyd gyda nhw. Rhaid i ymgynghori â chymunedau ar unrhyw gynllun fod yn ystyrlon os ydym am i bobl fod â ffydd yn eu democratiaeth leol."
“Mae Plaid Cymru a’r Glymblaid Enfys wedi dangos egwyddor a chryfder wrth ddod i’r penderfyniad hwn, gan ddangos i drigolion y gellir ac y bydd eu barn yn cael ei hystyried pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud.”
“Rwy’n annog y weinyddiaeth a swyddogion i weithio nawr i ddatblygu cynigion ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer Godre’r Graig ac unrhyw welliannau angenrheidiol i ysgolion yr Alltwen a Llangiwg ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r cynlluniau newydd hynny.”