Mae'n hanfodol ein bod yn galluogi ein pobl ifanc i ddeall y modd y mae syniadau polisi, ideoleg a systemau llywodraethu yn creu'r gymdeithas a'r byd y maent yn rhan ohonynt, a sut gallant gael llais, mynegi barn a chwarae eu rhan yn y broses ddemocrataidd, a sylweddoli a gwerthfawrogi pam fod hynny'n bwysig, iddynt ddeall bod ganddynt rym.
Dros y blynyddoedd diwethaf yn y Senedd, rwyf wedi ceisio pwysleisio bod gan bawb lais a’i fod yn cyfrif. Rwyf wedi ceisio sicrhau bod lleisiau pobl ifanc a phlant Cymru yn cael eu clywed a bod cymaint â phosibl yn cael eu hannog i gymryd diddordeb a rôl weithredol yn ein holl ddyfodol.
Cliciwch yma i adael sylw neu i ddanfon neges
27.03.25 - Ymweliad â Choleg Gŵyr
Cefais fore bendigedig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn siarad â myfyrwyr sy’n astudio Gwleidyddiaeth. Unwaith eto roedd hi mor galonogol gweld llond ystafell o bobl ifanc â chymaint o ddiddordeb yn eu Senedd, a byd ehangach gwleidyddiaeth.
12.03.25 - Wythnos Croeso i Dy Bleidlais
Fe wnes i noddi trafodaeth bwrdd crwn a gynhaliwyd gan Y Comisiwn Etholiadol yn canolbwyntio ar y ffordd orau i ni ymgysylltu â phobl ifanc cyn mis Mai 2026, i gynyddu eu dealltwriaeth a’u hyder i gymryd rhan yn etholiad y Senedd. Y Fonesig Elan Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol Cymru, oedd yn cadeirio’r drafodaeth ac yn amlinellu canfyddiadau allweddol ymchwil i agweddau pobl ifanc at ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth Lleisiau Ifanc ar Ddemocratiaeth. Ymunodd Plant yng Nghymru â ni hefyd, ochr yn ochr â phobl ifanc wych sydd wedi cynhyrchu gwaith celf ar y thema "Fy Mhleidlais, Fy Llais" - "Fy Mhleidlais, Fy Llais".
07.03.25 - Elect Her
Roeddwn i mor falch o fod wedi cymryd rhan yn nigwyddiad ElectHer ‘Ysbrydoli Hi yn y Senedd’. Mae angen mwy o fenywod yn y llefydd lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud ac roedd yn wych medru sôn wrth fenywod Ifanc o’m cyn ysgol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni am fy llwybr i’r Senedd.

06.12.24 - Senedd yr ysgol yn holi Aelod lleol o’r Senedd
30.06.24 - Mae angen addysg wleidyddol ar bobl ifanc, nid y Gwasanaeth Cenedlaethol
12.06.24 - Newyddion S4C
Ni allai'r angen i gael pobl i ymgysylltu'n well â'r broses ddemocrataidd fod yn bwysicach ar hyn o bryd gydag etholiad ar y gorwel a ninnau’n diwygio’r Senedd. Siaradais â Newyddion am fy nghynnig ar gyfer Bil Addysg Wleidyddol, a basiwyd yn ddiweddar gan y Senedd.