‘Mae angen i ni siarad am PMDD’ – AS Plaid

Galwodd AS Plaid Cymru Sioned Williams heddiw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sy’n dioddef o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD), anhwylder hwyliau sy’n ymwneud ag hormonau sy’n effeithio ar 1 o bob 20 o fenywod a'r rhai a ddynodwyd yn fenywod pan gawsant eu geni.

Wrth siarad mewn digwyddiad yn y Senedd heddiw a noddwyd gan yr AS Plaid i nodi Mis Ymwybyddiaeth Anhwylder Cyn-mislif (PMD), diolchodd Sioned Williams ymgyrchwyr PMDD am eu “gwaith caled” ac fe adleisiodd eu galwadau am well cefnogaeth.

Cefnogwyd y digwyddiad gan yr IAPMD (Cymdeithas Ryngwladol Anhwylderau Cyn Mislif), y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ac ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Becci Smart, un o etholwyr Sioned Williams o Ben-y-bont ar Ogwr y mae’r AoS Plaid yn ei mentora drwy raglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal. Mae Becci Smart wedi bod yn byw gyda PMDD ers iddi fod yn 14 oed.

Fe gododd Sioned Williams ymwybyddiaeth o PMDD hefyd yn ystod ei datganiad 90 eiliad heddiw yn y Senedd, lle cefnogodd alwad ymgyrchwyr i “wneud Cymru yn genedl lle gall pobl â PMDD oroesi a ffynnu”.

Dywedodd yr ymgyrchydd PMDD, Becci Smart:

“Mae'n anodd dod o hyd i'r geiriau cywir sy'n gallu esbonio'n llawn y profiad o fyw gyda PMDD.

“Hoffwn dalu teyrnged i’r bobl a fu’n ddigon caredig i rannu eu straeon ar gyfer y digwyddiad hwn.

“Rwy’n gobeithio bod hyn wedi rhoi cipolwg ar fywydau’r rhai sy’n byw gyda’r anhwylder, yn ogystal â bywydau eu hanwyliaid, ac yn taflu goleuni ar y brwydrau a’r torcalon y mae’r anhwylder hwn yn eu hachosi.”

Cafodd Aelodau’r Senedd yn a’r cyhoedd gyfle i ddysgu mwy am PMDD yn ystod digwyddiad heddiw a gynhaliwyd yn Adeilad Pierhead y Senedd.

Fel rhan o’r digwyddiad, dangoswyd ffilm fer, ‘Sabrina: Telling the PMDD Story’, a chafodd y rhai oedd yn bresennol gyfle i ddefnyddio hunan-sgrinwyr i weld a oes ganddynt PMDD neu PME. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sgwrs ehangach lle mynegodd y rhai a’i fynychodd y modd y mae eu mislif neu mislif eu hanwyliaid yn gwneud iddynt deimlo.

Dywedodd yr AoS dros Orllewin De Cymru a Llefarydd Plaid Cymru dros Gydraddoldebau, Sioned Williams:

“Roeddwn yn falch o noddi digwyddiad heddiw ar PMDD a helpodd i amlygu’r cysylltiad rhwng hormonau ac iechyd meddwl, i’r rhai sy’n ceisio cymorth eu hunain, neu i’w hanwyliaid neu gyfoedion.

“Mae PMDD weithiau’n cael ei gamadnabod fel iselder, gorbryder neu anhwylder deubegwn, ac mae hyn oherwydd diffyg dealltwriaeth o’r cyflwr.

“Hoffwn dynnu sylw at waith caled yr IAPMD a gefnogodd y digwyddiad heddiw, yn ogystal ag ymgyrchwyr fel Becci Smart sy’n tynnu sylw at y mater pwysig hwn.

“Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o PMDD ac o’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai sy’n dioddef ohono.”

“Gan fod y rhai sydd â PMDD mewn mwy o berygl o hunanladdiad ac ymddygiad hunanladdol, mae’n hanfodol bod y rhai sy’n byw gyda’r cyflwr yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnynt ac eu bod yn gwybod ble gallant ddod o hyd i’r gefnogaeth sydd ar gael.”

Mae ‘Sabrina: Telling the PMDD Story’ yn gydweithrediad rhwng IAPMD, saith cynghorydd sgript a Gwneuthurwr Ffilm MetSchool Llundain, Amy Greenbank. Mae'r ffilm fer yn cynnig cipolwg amrwd i wylwyr ar fywyd gyda PMDD a'r anawsterau y mae nifer yn eu hwynebu wrth chwilio am ddiagnosis.

Hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad oedd Dr Arianna Di Florio, sy'n arwain astudiaeth PreDDICT sy'n ceisio ymchwilio i weld a all geneteg a'r amgylchedd adnabod y rhai sydd mewn perygl o Anhwylder Cyn-mislif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd