Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i bolisi Plaid ar fanciau twym

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi ymrwymo i glustnodi £1m ar gyfer banciau bwyd yng Nghymru, yn dilyn galwadau gan Sioned Williams AS ac eraill. 

Fis diwethaf, fe awlodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb ac Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams, ar ar gynghorau i agor banciau cynnes fel mesur brys i helpu i wrthsefyll effeithiau gwaethaf yr argyfwng costau byw.

Mewn llythyr at Gynghorau Abertawe, CNPT a Phen-y-bont ar Ogwr, tynnodd Sioned Williams sylw at yr angen i weithredu yn wyneb pwysau economaidd enfawr ar aelwydydd yn sgîl maint a natur yr argyfwng, gan nodi bod y setliadau ariannu presennol yn gwbl annigonol.

Dywedodd Sioned Williams AoS:

"Galwais yn ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn banciau cynnes - canolfannau lle gall pobl sy’n cael trafferth gwresogi eu cartrefi fynd i gadw’n dwym - ar draws Cymru er mwyn atal marwolaethau a dioddefaint diangen. Gyda £1m bellach wedi ei glustnodi ar gyfer banciau twym, rwy'n falch fod y Llywodraeth nawr yn cytuno â'r galwadau hyn gan Blaid Cymru ac eraill.

“Wrth i brisiau tanwydd barhau i godi i lefelau cwbl anfforddiadwy, bydd mwy a mwy o deuluoedd yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng bwyta pryd o fwyd a chynhesu eu cartrefi. Bydd llawer o bobl yn marw oni bai bod llywodraeth ar bob lefel yn cymryd camau cyflym a brys i atal y marwolaethau diangen hyn rhag digwydd.

Mae Sioned Williams hefyd wedi galw am rewi rhenti ar gyfer tai cymdeithasol ac wedi adleisio galwadau Delyth Jewell AoS, llefarydd Plaid Cymru ar ynni, am ostwng capiau ar brisiau ynni i’r lefelau yr oeddynt cyn Ebrill.

Ychwanegodd Sioned Williams:

“Yn y tymor hir, mae angen i ni ddod ag ynni o dan berchnogaeth gyhoeddus, fel mae Plaid Cymru wedi bod yn galw’n gyson amdano. Mae angen inni hefyd edrych ar y camau y gellid eu cymryd i atal trachwant corfforaethol cynhyrchwyr ynni drwy ddeddfwriaeth.

“Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae angen i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyd ganolbwyntio’n llawn ar gadw teuluoedd yn gynnes ac ar achub bywydau. Ni allwn, o dan unrhyw amgylchiadau, dderbyn yn stoicaidd fod pobl yn wynebu lefelau Fictoraidd o dlodi ac hyd yn oed marwolaeth yng Nghymru’r 21ain ganrif.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd