AS Plaid yn galw am adolygiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn achos Logan Mwangi

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams wedi galw heddiw am adolygiad annibynnol o waith cymdeithasol plant ledled Cymru, yn dilyn cyhoeddi adolygiad ymarfer plant annibynnol i achos trasig Logan Mwangi, a gafodd wedi ei ganfod yn farw 250 metr o'i gartref ar 31 Gorffennaf, 2021 yn 5 oed. 

Cafodd bywyd bachgen a oedd wedi’i ddisgrifio fel “hapus, siriol” ei fywyd wedi’i dorri’n fyr trwy greulondeb parhaus, creulon y rhai yr oedd yn byw gyda nhw.

Heddiw, mae adolygiad ymarfer plant annibynnol wedi’i gyhoeddi sy’n taflu rhywfaint o oleuni ar sut fethodd y systemau a’r prosesau a roddwyd ar waith i amddiffyn plant fel Logan ag atal y drasiedi erchyll hon.

Dywedodd Sioned Williams MS:

“Mae’r adroddiad yn amlinellu i ba raddau roedd asiantaethau lluosog wedi gweithio gyda Logan a’i deulu yn y blynyddoedd cyn ei farwolaeth. Mae’n dangos yr amserau y codwyd pryderon ac yr ymchwiliwyd iddynt, sut cafwyd fethiant i rannu gwybodaeth, methiannau i herio penderfyniadau, methiannau i sicrhau bod llais Logan yn cael ei glywed yn ddigonol, a methiant i hysbysu tad Logan bod ei fab wedi’i roi ar y gofrestr amddiffyn plant wedi gadael â Logan i lawr.

“Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi cyd-destun i fywyd cartref cymhleth Logan. Roedd mam a llystad Logan yn fedrus wrth dwyllo awdurdodau, ac fe ddefnyddion nhw bryderon a rheoliadau Covid i gyfyngu ar ymweliadau a chuddio maint y creulondeb yr oedd Logan yn ei wynebu.

“Mae llawer o argymhellion lleol a chenedlaethol wedi’u gwneud, ac mae Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi sicrwydd y bydd diweddariadau’n cael eu darparu ynghylch y cynnydd sy’n cael ei wneud i weithredu’r argymhellion hyn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr argymhellion penodol a wnaed i Lywodraeth Cymru yn cael eu trafod yn y Senedd maes o law, fel mater o frys.”

Ychwanegodd Sioned Williams MS:

“Bydd y newidiadau a wneir nawr yn lawer rhy hwyr yn achos Logan, ond rwy'n gobeithio y gall gweithredu’r holl argymhellion a wneir yn yr adroddiad hwn yn gyflym helpu i gyfyngu ymhellach ar y risgiau i blant eraill.

“Galwaf ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael yr adnoddau priodol, ac am adolygiad annibynnol o waith cymdeithasol plant ledled Cymru, yn debyg i’r rhai a gynhaliwyd yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, fel y galwodd yr Athro Donald Forrester a'r Gymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol Cymru amdano'n flaenorol. 

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n pryderu am les unrhyw blentyn, boed hynny’n gam-drin corfforol neu emosiynol, esgeulustod neu reolaeth drwy orfodaeth, i roi gwybod i’r awdurdodau perthnasol.”

Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer codi pryderon diogelwch plant ar draws rhanbarth Gorllewin De Cymru:

Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr: 01656 642320

Cyngor Castell-nedd Port Talbot: 01639 686802

Cyngor Abertawe: 01792 635700

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd