Mae AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Sioned Williams wedi canmol Cyngor Castell-nedd Port Talbot am ei “weithrediad llwyddiannus” o gam cyntaf y polisi prydau ysgol am ddim newydd, yn dilyn ymweliad ag Ysgol Gynradd Alltwen gydag Aelod Cabinet Addysg CNPT, y Cynghorydd Nia Jenkins.
O’r wythnos hon ymlaen, mae pob plentyn oed derbyn yn ysgolion CNPT yn derbyn prydau ysgol am ddim, diolch i’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru.
Canmolodd Sioned Williams, sy’n llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau, “waith caled” staff arlwyo, athrawon, penaethiaid a Chyngor Castell-nedd Port Talbot “am gyflwyno newid gwirioneddol ac ystyrlon i’n plant.”
Disgwylir y bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu hymestyn yn raddol drwy gydol y flwyddyn i gynnwys y grwpiau oedrannau eraill yn ysgolion cynradd CNPT. Bydd y ddarpariaeth yn cael ei hymestyn i holl ddisgyblion Blwyddyn 1 ar ôl hanner tymor mis Hydref, ac mae’r Cyngor yn obeithiol y bydd yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 2 cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Dywedodd Sioned Williams:
“Cefais y pleser heddiw o ymweld ag Ysgol Gynradd Alltwen yn ystod amser cinio, lle gwelais â’m llygaid fy hun y gwaith caled y mae’r ysgol gyfan, o staff arlwyo i gynorthwywyr addysgu, ac athrawon a phrifathrawon, wedi bod yn ei wneud i sicrhau gweithrediad llwyddiannus y cam cyntaf ym mholisi newydd prydau ysgol am ddim, a hoffwn ddiolch iddynt am sicrhau newid gwirioneddol i’n plant a chymorth pwysig i’w teuluoedd.
“Mae’n newyddion gwych bod Castell-nedd Port Talbot eisoes yn mynd i ymestyn y cynnig i holl ddisgyblion blwyddyn un ar ôl hanner tymor mis Hydref ac i ddisgyblion blwyddyn dau cyn gynted â phosibl ar ôl hynny, ac eisoes wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn gymwys am ginio ysgol am ddim erbyn 2024. Hoffwn ddiolch i Gynghorydd Plaid Cymru ar gyfer Alltwen Nia Jenkins, sy’n Aelod Cabinet dros Addysg CNPT am helpu i wneud hyn yn bosibl.”
Ychwanegodd:
“Tra bod sefydliad San Steffan yn methu â mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, mae Cymru’n arwain y ffordd ac yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi teuluoedd.
“Diolch i ddylanwad Plaid Cymru ar bolisi Llywodraeth Cymru drwy’r Cytundeb Cydweithio, bydd prydau am ddim yn cael eu cyflwyno ar draws holl ysgolion cynradd Cymru o’r wythnos hon ymlaen, gan ddechrau gyda dosbarthiadau derbyn. Wrth sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw blentyn lwgu, rydym yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant, oherwydd ni all plant ddysgu os ydynt yn llwgu.”
“Fodd bynnag, mae Plaid Cymru yn gweld y polisi newydd hwn fel cam cyntaf tuag at brydau am ddim i bob plentyn. Yn y cyfamser, bydd yr ymestyniad newydd yr ydym nawr yn ei weld yn narpariaeth prydau ysgol am ddim yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynifer o blant, yn enwedig wrth i ni agosau at yr hyn a fydd yn aeaf anodd iawn i lawer o deuluoedd, a bydd yn rhoi dechrau da iddynt am weddill eu bywydau. Mae hyn yn rhywbeth rwy’n hynod falch o fod yn rhan ohono.”
Dywedodd Nia Jenkins, Aelod Cabinet dros Addysg CBSCNPT a Chynghorydd Plaid Cymru:
“Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw presennol, mae’r cyngor yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yng Nghastell-nedd Port Talbot yn newynu.
“Ar ben y cynllun cymorth caledi gwerth £2 filiwn y cytunodd y Glymblaid arno ym mis Gorffennaf, rydym wedi dechrau ar y gwaith o gyflwyno prydau ysgol am ddim cyn gynted â phosibl.
“Rydym yn deall bod pob teulu yn wynebu heriau a achosir gan yr argyfwng, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd trwy’r cyfnod anodd hwn.”