Sioned Williams AS yn galw am eglurder gan Lywodraeth Cymru ar ailddechrau gwasanaethau deintyddol

Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynlluniau o ran ailgychwyn gwasanaethau deintyddol arferol.

Mae Sioned Williams wedi derbyn ymholiadau gan etholwyr sy'n poeni nad ydyn nhw wedi cael archwiliad arferol ers dros 15 mis.

Mae triniaeth frys wedi bod ar gael yn ystod y pandemig, ond mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn amcangyfrif bod deintyddiaeth y GIG yng Nghymru yn gweithredu ar ychydig dros bumed rhan o'r lefel cyn-bandemig.

 Cododd Sioned Williams y mater gyda’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan MS yn y Senedd.

 Dywedodd Mrs. Williams:

 “Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn gwasanaethau deintyddol yn ystod y pandemig, gyda bron i ddwy filiwn o driniaethau wedi’u colli yng Nghymru yn ystod y cyfnod.

 “Rydym yn gwybod bod archwiliadau rheolaidd yn bwysig wrth gynnal iechyd y geg, fodd bynnag, yn anffodus nid yw hynny wedi bod yn bosibl dros y cyfnod diweddar.

 “Mae'r BDA wedi nodi ei bryder bod y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd o ran iechyd y geg wedi cynyddu yn ystod y cyfnod hwn. Felly mae angen i ni weld pobl yn dechrau derbyn archwiliadau deintyddol arferol cyn gynted ag y bo modd gwneud hynny.

 “Yn anffodus, ychydig iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddweud yn ei datganiadau a’i briffiau dyddiol ynghylch deintyddiaeth, a dyma pam rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynlluniau yn y maes hwn.

 “Mae materion ehangach yn wynebu deintyddiaeth yng Nghymru, yn enwedig o ran mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG ac anghydraddoldeb o ran iechyd y geg, ond yn y lle cyntaf mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan y boblogaeth gyffredinol syniad clir ynghylch pryd y gall archwiliadau arferol ail-ddechrau."

Deintydd a nyrs yn rhoi triniaeth i glaf

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd