AS Plaid Cymru yn galw ar i Lywodraeth Lafur Cymru roi mwy o ffocws ar Ganol Tref Castell-nedd

Mae AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i roi mwy o ffocws ar Ganol Tref Castell-nedd er mwyn mynd i’r afael â siopau gwag, ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihad yn nifer y bobl sy’n ymweld â chanol y dref

Cododd Sioned Williams y mater gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 22ain 2021).

Mae Sioned Williams wedi siarad â nifer o berchnogion siopau  a masnachwyr marchnad yn y dref sy'n poeni am y gostyngiad mewn nifer y rhai sy’n dod i siopa ac ymddygiad  gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref. Ar hyn o bryd mae 18 o unedau manwerthu gwag ym mhrif strydoedd Canolfan Tref Castell-nedd.

Dywedodd Sioned Williams:

“Ar ôl siarad â’r rhai sy’n  berchen ar siopau a masnachwyr marchnad yn ddiweddar mae’n amlwg bod canol tref Castell-nedd yn cael hi’n anodd iawn ar hyn o bryd o ran mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn sgil y ffaith bod llai o bobl yn dod i ganol y dref.

“Gobeithiaf y bydd datblygiad y pwll nofio, caffi a llyfrgell yn y dref yn helpu i ddod â nifer uwch o bobl ii’r dref,  ond mae yna deimlad na fydd hynny, ar ei ben ei hun, yn ateb.

“Dim ond yr wythnos diwethaf fe soniwyd wrtha i bod tua 18 o unedau manwerthu gwag ar hyn o bryd ym mhrif strydoedd canol y dref. Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod busnesau newydd yn cael eu sefydlu yng nghanol y dref, a'n bod yn gweld gostyngiad yn nifer yr unedau manwerthu gwag sydd gennym ar hyn o bryd.

“Mae’n destun pryder ei bod yn ymddangos bod BID Canol Tref Castell-nedd yn dod i ben, gan nad oes digon o gefnogaeth ymhlith busnesau i’w weld yn parhau.”

shop window closed down

Teimlai'r AS Plaid Cymru fod mynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref a gwella'r cynnig yng nghanol y dref yn hanfodol, gan ychwanegu:

“Mae angen mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r adroddiadau o gymryd cyffuriau yr ydym yn clywed sôn amdanynt, ac mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Heddlu De Cymru ar y mater hwnnw.

“Ni fydd y cynlluniau i  ddatblygu Piaza yng Nghastell-nedd yn cyrraedd yn bell iawn os nad eir i’r afael â’r materion hyn.

“Wrth i gyfyngiadau Covid gael eu llacio, mae angen i ni weld digwyddiadau diwylliannol, cerddorol, celfyddydol a chymunedol yn cael eu cynllunio ar gyfer canol y dref i ddenu ymwelwyr.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud gwaith ychwanegol gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot i geisio datblygu a chefnogi ystod ehangach o weithgarwch ac atyniadau yng nghanol y dref, gan gynnwys cefnogi masnachwyr annibynnol lleol. Bydd sicrhau cyfraddau busnes a rhenti is yn allweddol i hynny.

“Ni allwn barhau i weld unedau gwag yng nghanol y dref, ac mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhan annatod o ddatrys y sefyllfa honno.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd