Wythnos Gofalwyr 2021

Cafodd Wythnos Gofalwyr ei chynnal rhwng 7-13 Mehefin a'i thema eleni oedd sicrhau bod  gofalwyr di-dâl yn cael eu gwerthfawrogi a'u gweld . Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU. Fel rhywun sydd wedi cael profiad personol o ofalu, rwyf am geisio sicrhau bod lleisiau gofalwyr yn cael eu clywed. Roeddwn felly'n awyddus i dreulio amser yn cwrdd â'r rhai sy'n gweithio yn rhanbarth Gorllewin De Cymru i gefnogi gofalwyr a chlywed am eu profiadau a'u hanghenion.

Roedd yn wych cwrdd ag Alison Owen a thîm Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot i ddysgu sut maen nhw'n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol i ofalwyr di-dâl a sut maen nhw wedi addasu'r gwaith hwn wrth ymateb i'r pandemig a'i effaith ar fywydau gofalwyr a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Nid yw llawer o bobl yn llwyr sylweddoli eu bod yn ofalwyr ac nid yw eraill yn gwybod ble i droi pan fydd angen cymorth arnynt.

Os ydych chi'n byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot, ewch i'r wefan https://www.nptcarers.co.uk/ neu ffoniwch 01639 642277 i ddarganfod mwy am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael, gan gynnwys help gyda llenwi ffurflenni, rhaglen lawn o weithgareddau cymdeithasol  a chyrchu gofal seibiant.

Siaradais hefyd â swyddog polisi Age Cymru ac un o drigolion Castell-nedd, Andrew Jenkins am yr adroddiad ‘Am y Tro’ sydd newydd ei gyhoeddi - gallwch ei ddarllen yma: For the Moment Summary of findings from older carers

Mae Andrew yn sôn wrthyf am brif ganfyddiadau'r adroddiad yn y clip fideo hwn https://fb.watch/6aTMr-Osoa/

Ac, fel diweddglo hyfryd i Wythnos Gofalwyr, ymunais â Bore Coffi Canolfan Gofalwyr Abertawe i sgwrsio â gofalwyr a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt, gwirfoddolwyr a staff am anghenion gofalwyr di-dâl.

Os oes angen gwybodaeth a chefnogaeth arnoch ac yn byw yn ardal Abertawe, gallwch fynd i https://www.swanseacarerscentre.org.uk/ neu ffonio 01792 653344 i gael cyngor a help cyfeillgar.

Cysylltwch â mi os oes gennych unrhyw broblemau gyda chael gafael ar gymorth a chefnogaeth yn ardal Gorllewin De Cymru a byddaf yn ceisio helpu. [email protected]

sioned in a carers coffe moring

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd