Plaid Cymru yn galw am ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru i lefelau treth Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Mae'r AS Plaid Cymru Sioned Williams wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i Gynghorau fel Castell-nedd Port Talbot sy'n codi cyfraddau treth Cyngor uwch yn gyson.

Ar hyn o bryd mae preswylwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot yn talu’r drydedd gyfradd uchaf o dreth y Cyngor yng Nghymru sy tua £250 yn fwy na chynghorau cyfagos.

Mae cartref Band D yng Nghastell-nedd Port Talbot yn talu £1,996, o'i gymharu â £1,729 yn Sir Gaerfyrddin a £1,753 yn Abertawe.

Cododd yr AS Plaid Cymru y mater gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford AS yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 13eg).

Dywedodd:

“Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy’n cael ei redeg gan Lafur, yn gosod un o’r lefelau treth Cyngor uchaf yng Nghymru yn gyson, ac yn syml ni all preswylwyr ddeall pam ei bod yn costio cymaint mwy i Gyngor CNPT ddarparu gwasanaethau, o’i gymharu â siroedd cyfagos.

“Ni all fod yn iawn bod trigolion Castell-nedd Port Talbot yn talu £267 yn fwy bob blwyddyn am eu treth Cyngor na thrigolion Sir Gaerfyrddin, a £243 yn fwy na thrigolion Dinas a Sir Abertawe.

“Mae tegwch wrth wraidd y mater hwn, a thra'n derbyn hawl ddemocrataidd pob awdurdod lleol i osod ei lefelau treth gyngor ei hun, siawns na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod Cynghorau ledled Cymru yn adolygu eu system lefelau gwariant.

“Rwy’n credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad yn benodol i awdurdodau sy'n trethu'n  uwch fel Castell-nedd Port Talbot gyda’r bwriad o sicrhau lefelau treth y cyngor mwy cyson yng Nghymru.


Mewn ymateb i’r cwestiwn gan Sioned Williams, nododd Mark Drakeford AS fod cynnydd canrannol treth Cyngor Castell-nedd Port Talbot eleni yn is na rhai Cynghorau eraill, gan gynnwys awdurdodau dan arweiniad Plaid Cymru, ond nododd Mrs. Williams fod y Prif Weinidog yn methu’r pwynt.

Ychwanegodd:

“Nid y cynnydd canrannol mewn un flwyddyn benodol yw’r broblem yma. Y gwir yw bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi codi cannoedd o bunnoedd yn fwy mewn treth y cyngor ar breswylwyr nag mewn rhannau eraill o Gymru, ac mae hyn wedi digwydd ers nifer o flynyddoedd. Pam nad oes gan Lafur Cymru ddiddordeb mewn mynd i’r afael â’r mater hwn? ”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd